Ymchwilio i Dân​​​



Mae adran 45 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004, sy’n rhoi ‘pŵer’ yn hytrach na ‘dyletswydd’, yn rhoi’r awdurdod i’r Gwasanaeth Tân ac Achub i ymchwilio i dân.

Mae ymchwilio i dân yn hanfodol wrth benderfynu ar ei achos a’i darddiad, a hefyd wrth ganfod ymddygiad tân a’r bobl a effeithiwyd. Bydd hyn yn galluogi i nodweddion a thueddiadau i gael eu canfod, gyda golwg ar leihau’r nifer o golledion mewn tanau yn y dyfodol.

Yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf, mae arbenigedd ein Swyddogion Ymchwilio i Dân wedi cynyddu, yn unol â’r galwadau cynyddol amdanynt.



Mae adran 45 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004, sy’n rhoi ‘pŵer’ yn hytrach na ‘dyletswydd’, yn rhoi’r awdurdod i’r Gwasanaeth Tân ac Achub i ymchwilio i dân.

Diffiniadau

‘Pŵer’: Y gallu i ymarfer rheolaeth neu awdurdod

‘Dyletswydd’: Rhwymedigaeth i gyflawni gwasanaeth, tasg neu swyddogaeth

Mae ymchwilio i dân yn hanfodol wrth benderfynu ar ei achos a’i darddiad, a hefyd wrth ganfod ymddygiad tân a’r bobl a effeithiwyd. Bydd hyn yn galluogi i nodweddion a thueddiadau i gael eu canfod, gyda golwg ar leihau’r nifer o golledion mewn tanau yn y dyfodol.

Yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf, mae arbenigedd ein Swyddogion Ymchwilio i Dân wedi cynyddu, yn unol â’r galwadau cynyddol amdanynt. Mae’r newidiadau i ofynion deddfwriaethol wedi arwain at yr angen am fwy o gydweithredu rhwng y Gwasanaeth Tân, yr Heddlu a’r Gwasanaeth Gwyddoniaeth Fforensig. Derbynnir mwy o geisiadau oddi wrth Gwmnïau Yswiriant, sy’n awyddus i ddarganfod pwy sy’n gyfrifol am y digwyddiadau a fynychwyd. Mae’r newidiadau yma wedi gwneud ymchwilwyr i dân yn fwy agored i gael eu beirniadu gan y gyfraith a’r cyhoedd nag erioed o’r blaen, yn enwedig wrth ymdrin â digwyddiadau proffil uchel, megis digwyddiadau ble mae marwolaeth neu nifer o farwolaethau wedi bod.

Mae’r cyfrifoldeb a roddir i Swyddogion Ymchwilio i Dân yn unol â’r ddeddfwriaeth, megis Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol (PACE) 1984, yn golygu bod yn rhaid i dystiolaeth a gafaeliwyd i gynorthwyo gydag Ymchwiliadau’r Heddlu i gael ei reoli yn y modd cywir. Gall methiant i wneud hynny olygu bydd y sawl sy’n gyfrifol am gynnau tân yn fwriadol yn cael ei ryddhau ar sail dechnegol.   

Mae’r Gwasanaeth wedi buddsoddi’n sylweddol mewn datblygu sgiliau ymchwilio i dân unigol, gan alluogi Swyddogion i gynnal ymchwiliadau cynhwysfawr a fydd, yn y pen draw, yn golygu bydd achosion cyfreithiol yn cael eu dwyn a/neu fod cwestau’r Crwner yn cael eu goleuo.

Ceir tair lefel o Swyddogion Ymchwilio i Dân o fewn y Gwasanaeth.

  • Mae ymchwiliadau i dân ar Lefel 1 yn cael eu cynnal gan y Rheolwyr Digwyddiad cychwynnol, sydd â gofal am ddigwyddiadau ac sydd wedi cwblhau cwrs swyddogion ymchwilio i dân sylfaenol.
  • Cynhelir ymchwiliadau Lefel-2 gan swyddogion Haen-1 ar reng Rheolwr Gorsaf ac uwch, sydd wedi mynychu cwrs ymchwilio i dân yng Ngholeg y Gwasanaeth Tân neu mewn sefydliad cydnabyddedig arall.
  • Bydd Swyddogion Ymchwilio i Dân Lefel 3 (Haen-1 ar reng Rheolwr Gorsaf hefyd) wedi cwblhau cwrs yng Ngholeg y Gwasanaeth Tân, neu gwrs tebyg gan hyfforddwr achrededig ac wedi derbyn hyfforddiant manylach pellach, mewn sefydliad megis Prifysgol Caeredin a/neu ddarparwr hyfforddiant achrededig arall, yn ogystal â rhaglenni dysgu achrededig ychwanegol.  Gall Swyddog Ymchwilio i Dân Lefel 3 fynychu, mewn rôl ategol i’r SYD cychwynnol, a bydd yn mynychu ym mhob achos ble:
    • y bu marwolaeth neu nifer o farwolaethau,
    • y dioddefwyd anaf sy’n rhoi bywyd yn y fantol,
    • mae adeilad cyhoeddus wedi dioddef colled ariannol sylweddol, neu
    • ble mae’n debygol bydd gan y cyhoedd ddiddordeb yn y digwyddiad. 

Mae'n rhaid i Swyddogion Ymchwilio i Dân gydymffurfio â'r Cod Ymarfer Pwerau Mynediad a chael eu hawdurdodi, yn ysgrifenedig, gan yr Awdurdod Tân ac Achub. Rhaid iddynt gario'r awdurdod ysgrifenedig hwn a'i ddangos mewn ymateb i gais. Caiff Swyddogion awdurdodedig Ymchwilio i Dân fynd i mewn i adeiladau (ac eithrio i anheddau preifat a feddiennir) ar unrhyw adeg resymol er mwyn ymchwilio i fan cychwyn, achos ac ymlediad tân.

Ni chaniateir mynediad trwy hawl i anheddau preifat a feddiennir ond trwy:

  • Gydsyniad y meddiannwr. Os na ddaw cydsyniad, neu os na all y meddiannwr roi'r cydsyniad hwn oherwydd nad yw ar gael am ryw reswm yna,
  • Caiff Swyddogion Ymchwilio i Dân roi i'r meddiannwr, neu adael yn yr eiddo, hysbysiad sy'n rhoi 24 awr o rybudd o'u bwriad i fynd i mewn i'r eiddo. Os na ellir cael gwybod enw na chyfeiriad y meddiannwr ar ôl gwneud ymholiadau rhesymol, caniateir rhoi'r rhybudd -
    • trwy'i adael yn nwylo'r sawl sy'n preswylio neu y mae'n ymddangos ei fod yn preswylio yn yr annedd, neu
    • trwy'i osod ar ran amlwg o'r annedd.
  • Os bydd angen dybryd i fwrw ati â'r ymchwiliad ar unwaith ac nad yw'n bosibl aros am 24 awr, bydd yn rhaid i Swyddogion Ymchwilio i Danau gael gwarant gan Ynad Heddwch yn awdurdodi'r Swyddogion Ymchwilio i Danau i fynd i mewn i'r annedd ar unrhyw adeg.

Ni chaniateir i Swyddogion Ymchwilio i Dân gael mynediad i eiddo trwy rym. Ni chaniateir ychwaith i Swyddogion Ymchwilio i Dân fynd i mewn i annedd ddomestig 'wrth gwt' yr Heddlu, oherwydd y mae'r Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus wedi datgan na fydd y 'pŵer cyffredinol' sydd gan yr Heddlu i ofyn am gymorth gan unigolyn yn drech na'r gwaharddiad penodol a geir yn Neddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004.

Caniateir i Swyddogion awdurdodedig Ymchwilio i Dân sydd wedi mynd i mewn i eiddo yn gyfreithlon er mwyn ymchwilio i dân wneud hynny yng nghwmni unrhyw rai eraill y credir eu bod yn angenrheidiol er mwyn cwblhau'r ymchwiliad. Dylid defnyddio'r pŵer hwn pan nad oes hawl gyfreithiol i gael mynediad gan unigolyn a all ddarparu cymorth perthnasol i'r ymchwiliad. Felly, caniateir i bobl gymwys (e.e. trydanwyr, peirianwyr nwy, peiriannydd larwm tân, ac ati) gael mynediad cyfreithlon i'r eiddo er mwyn cynorthwyo Swyddogion Ymchwilio i Dân â'u hymchwiliad i achos ac ymlediad y tân. Mae gan swyddogion yr Heddlu eu pwerau mynediad cyfreithiol eu hunain y dylent eu defnyddio; a bydd Swyddogion Lleoliad Troseddau a Gwyddonwyr Fforensig yn mynd i mewn i eiddo, yn gyffredinol, o dan bwerau'r Heddlu.