Mae adran 45 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004, sy’n rhoi ‘pŵer’ yn hytrach na ‘dyletswydd’, yn rhoi’r awdurdod i’r Gwasanaeth Tân ac Achub i ymchwilio i dân.
Diffiniadau
‘Pŵer’: Y gallu i ymarfer rheolaeth neu awdurdod
‘Dyletswydd’: Rhwymedigaeth i gyflawni gwasanaeth, tasg neu swyddogaeth
Mae ymchwilio i dân yn hanfodol wrth benderfynu ar ei achos a’i darddiad, a hefyd wrth ganfod ymddygiad tân a’r bobl a effeithiwyd. Bydd hyn yn galluogi i nodweddion a thueddiadau i gael eu canfod, gyda golwg ar leihau’r nifer o golledion mewn tanau yn y dyfodol.
Yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf, mae arbenigedd ein Swyddogion Ymchwilio i Dân wedi cynyddu, yn unol â’r galwadau cynyddol amdanynt. Mae’r newidiadau i ofynion deddfwriaethol wedi arwain at yr angen am fwy o gydweithredu rhwng y Gwasanaeth Tân, yr Heddlu a’r Gwasanaeth Gwyddoniaeth Fforensig. Derbynnir mwy o geisiadau oddi wrth Gwmnïau Yswiriant, sy’n awyddus i ddarganfod pwy sy’n gyfrifol am y digwyddiadau a fynychwyd. Mae’r newidiadau yma wedi gwneud ymchwilwyr i dân yn fwy agored i gael eu beirniadu gan y gyfraith a’r cyhoedd nag erioed o’r blaen, yn enwedig wrth ymdrin â digwyddiadau proffil uchel, megis digwyddiadau ble mae marwolaeth neu nifer o farwolaethau wedi bod.
Mae’r cyfrifoldeb a roddir i Swyddogion Ymchwilio i Dân yn unol â’r ddeddfwriaeth, megis Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol (PACE) 1984, yn golygu bod yn rhaid i dystiolaeth a gafaeliwyd i gynorthwyo gydag Ymchwiliadau’r Heddlu i gael ei reoli yn y modd cywir. Gall methiant i wneud hynny olygu bydd y sawl sy’n gyfrifol am gynnau tân yn fwriadol yn cael ei ryddhau ar sail dechnegol.
Mae’r Gwasanaeth wedi buddsoddi’n sylweddol mewn datblygu sgiliau ymchwilio i dân unigol, gan alluogi Swyddogion i gynnal ymchwiliadau cynhwysfawr a fydd, yn y pen draw, yn golygu bydd achosion cyfreithiol yn cael eu dwyn a/neu fod cwestau’r Crwner yn cael eu goleuo.