Anghywir. Ffilmiau a rhaglenni teledu sydd wedi rhoi bod i'r myth hwn. Mae systemau ysgeintio'n cynnwys cyfres o bibellau sy’n gorffen â phennau ysgeintio. Pan fydd tân yn dechrau, bydd gwres y fflamau yn achosi i'r hylif mewn bwlb cwartsoid, sydd wedi'i osod ar y pen ysgeintio, ehangu nes bod y bwlb yn torri ac yn gollwng dŵr ar ben y tân. Bydd y gwres wedi'i gyfyngu i'r pen ysgeintio yn ardal y tân yn unig. Ni fydd yn effeithio ar y pennau eraill ac felly bydd y rhain yn aros yn gyfan, heb ollwng dŵr ar rannau eraill o'r eiddo lle nad oes tân. Fodd bynnag, os digwydd i'r tân ymledu, bydd y fflamau’n effeithio ar fwy o bennau gan achosi iddynt dorri a rhyddhau rhagor o ddŵr mewn ymgais i gyfyngu ar ymlediad y fflamau.