Diogelwch Tân Chiminea



Yn ystod yr haf, mae'n ddigon naturiol i bobl ddymuno aros y tu allan yn hwyrach gyda'r nos i eistedd o amgylch pydew tân neu chiminea gyda theulu neu ffrindiau.



Mae defnyddio chiminea yn llawer mwy diogel na defnyddio pydew tân neu fod â thân agored yn eich gardd gan ei bod yn amgáu mwyafswm y fflam. Fodd bynnag, mae angen i bobl sylweddoli y gall y gwres a'r fflamau ohonynt fod yn beryglus o hyd os cânt eu defnyddio'n anghywir.





Dilynwch ein cynghorion diogelwch syml i gadw'n ddiogel yr haf hwn.

Cyn i chi gynnau eich tân
  • Gwnewch yn siŵr bod eich chiminea yn ddiogel ac yn gadarn ar ei stand i leihau'r risg y bydd yn cwympo drosodd.
  • Peidiwch â gosod eich chiminea ar ddecin neu yn ymyl coed neu adeiladweithiau megis siediau neu ffensys.
  • Cyn i chi gynnau eich tân, gwnewch yn siŵr bod gennych fodd o'i ddiffodd wrth law; cadwch fwced o ddŵr, tywod neu biben ddyfrhau gerllaw, rhag ofn.
Bydd yn gymydog da
  • Os ydych yn llosgi unrhyw beth yn eich gardd, mae’n bwysig eich bod yn ystyried os ydyw’r mwg yn effeithio ar eich cymdogion.
  • Gall y mwg o’ch tân orfodi pobl i gau eu ffenestri a’u hatal rhag oeri eu cartrefi. Mae pobl sydd gydag anawsterau anadlu ac anhwylder anadlol yn aml yn dioddef yn fwy mewn amodau poeth ac mae’r mwg, sydd yn dod o dân, yn medru gwneud eu cyflwr yn waeth.
  • Os yw eich cymdogion wedi hongian dillad allan i sychu, rowch wybod iddynt eich bod yn bwriadu cynnau tân fel y gallent gael cyfle i gasglu’r dillad cyn i chi ddechrau llosgi.
  • Byddwch yn barod i ddiffodd eich tân. Os yw cymydog yn cael ei effeithio gan eich tân, peidiwch â chymryd hi’n bersonol. Y peth ystyriol i wneud yw diffodd y tân a lleddfu ei anesmwythder.
Cynnau eich chiminea
  • Peidiwch byth â defnyddio cemegolion megis petrol i gynnau eich tân. Defnyddiwch gynnud/danwent i greu tân bach ac yna ychwanegwch y pren mwy o faint yn araf.
  • Os oes gan y chiminea gard tân, gwnewch ddefnydd ohono. Os na chawsoch gard gyda'r chiminea, gallwch wneud un eich hun yn hawdd trwy ddefnyddio rhwyll wifrog. Bydd y gard wedyn yn atal unrhyw farwydos poeth rhag dianc ac, o bosibl, rhag llosgi rhywun neu ddodrefn eich patio.
  • Dim ond tanau bach y dylech eu creu – cynlluniwyd chimineas i ddal tanau bach. Os byddwch yn gweld fflamau'n dod allan o'r simnai neu'r geg, mae hynny'n golygu bod y tân yn rhy fawr.
Cadwch blant o fewn pellter diogel
  • Ni ddylai plant chwarae yn ymyl chiminea.
  • Sicrhewch fod plant yn cael eu goruchwylio'n briodol, a rhybuddiwch eich gwesteion rhag y peryglon hefyd.
Mwynhau eich chiminea
  • Peidiwch byth â gadael tân heb neb yn ei oruchwylio, pa un a yw'n dân barbeciw, yn bydew tân neu'n dân mewn chiminea.
  • Nid yw tân ac alcohol yn cymysgu. Peidiwch ag yfed gormod o alcohol os chi sy'n gyfrifol am y tân.
  • Mae'n arfer da gosod 'parth diogel' o amgylch eich chiminea a sicrhau nad yw plant na gwesteion yn mynd i mewn i'r parth hwnnw.