Carbon Monocsid

Mae Carbon monocsid yn nwy gwenwynig iawn, sy’n ddi-liw, yn ddi-flas ac yn ddiarogl.  Mae offer llosgi tanwydd, megis stofiau, tanau, boeleri a gwresogyddion dŵr yn medru cynhyrchu carbon monocsid, os nad ydynt wedi cael eu gosod neu eu hatgyweirio’n iawn, os nad yw’r ffliwiau a’r simneiau’n cael eu cynnal a’u cadw’n iawn, neu os yw’r awyrellau wedi blocio.

Mae nwy, olew a thanwydd solet megis glo, golosg a phren yn medru cynhyrchu  carbon monocsid.

Mae gormod o bobl yn marw heb eisiau neu’n mynd yn ddifrifol wael oherwydd gwenwyn carbon monocsid pob blwyddyn, a gellir camgymryd y symptomau cynnar am ffliw neu flinder.  

Dehhumidifier drying out damp

Symptomau gwenwyno Carbon Monocsid

Cur pen yw'r symptom mwyaf cyffredin o wenwyno Carbon Monocsid. Mae symptomau cyffredin eraill yn cynnwys:

  • Cur pen
  • Chwydu (teimlo'n sâl)
  • Pendro
  • Diffyg anadl
  • Yn cwympo
  • Colli ymwybyddiaeth

Mae'r symptomau'n debyg i'r ffliw, gwenwyn bwyd, heintiau firaol a blinder. Gall fod yn hawdd camgymryd y symptomau am rywbeth llai difrifol.

Os ydych chi'n profi symptomau neu os yw'ch larwm CO yn swnio:

  • Diffoddwch y pwmp neu'r generadur
  • Agorwch ddrysau a ffenestri
  • Cael awyr iach ar unwaith
  • Gadewch y tŷ
  • Ffoniwch y gwasanaethau brys
  • Gofynnwch am gyngor meddygol

 

Sut i aros yn ddiogel

Mae Carbon Monocsid yn cael ei gynhyrchu pan nad yw tanwyddau penodol yn cael eu llosgi’n iawn.  Mae hyn yn cynnwys nwy, olew a thanwydd solet, megis glo, golosg a phren.  Mae Carbon Monocsid yn medru gollwng i mewn i gartrefi trwy ffliwiau neu simneiau a rennir, ac mae’n medru treiddio trwy waliau brics a phlastr hyd yn oed.

Rydych chi mewn perygl o wenwyn Carbon Monocsid os:

  • ​Cafodd eich offer llosgi tanwydd ei osod yn anghywir neu’n wael
  • Nid yw eich offer wedi cael gwiriad diogelwch na’i gynnal a’i gadw’n flynyddol
  • Yw eich simnai neu’r ffliw wedi blocio neu nad yw’n cael ei glanhau’n rheolaidd
  • Does dim larwm Carbon Monocsid clywadwy yn bresennol ac yn gweithio yn eich cartref

 

Lawrlwythwch ein Dogfen Diogelwch