Mae Rhanbarth y Gogledd y Gwasanaeth yn cynnwys 25 o Orsafoedd Tân ac Achub wedi'u gwasgaru ar draws ardaloedd Ceredigion a Powys.

Gorsafoedd Ceredigion

Cyfeiriad
​Gorsaf Dân Aberaeron
Heol y Frenhines
Aberaeron
Ceredigion
SA46 0BY

Ffôn
0370 6060699

Ebost
post@tangcg.gov.uk

A wyddech chi...
Mae diffoddwyr tân yn yr orsaf hon yn derbyn hyfforddiant ychwanegol er mwyn darparu ymateb meddygol, ar y cyd â'r gwasanaeth ambiwlans, mewn digwyddiadau lle y mae bywyd yn y fantol yn eu cymuned leol..

A wyddech chi...
Mae gan ardal Aberaeron boblogaeth o ryw 7,000 ac mae'r orsaf yn darparu ymateb brys ar gyfer y dref ei hun a chymunedau cyfagos Aber-arth, Cilcennin, Llan-non, Felin-fach, Llwyncelyn.

Cyfeiriad
Gorsaf Dân Aberteif
Heol Baddondy
Aberteifi
Ceredigion
SA43 1JY

Ffôn
0370 6060699

Ebost
post@tancgc.gov.uk

A wyddech chi...
Mae diffoddwyr tân yn yr orsaf hon yn derbyn hyfforddiant ychwanegol er mwyn darparu ymateb  meddygol, ar y cyd â'r gwasanaeth ambiwlans, mewn digwyddiadau lle y mae bywyd yn y fantol yn eu cymuned leol.

A wyddech chi...
Mae gan ardal Aberteifi boblogaeth o ryw 12,500 ac mae'r orsaf yn darparu ymateb brys ar gyfer y dref ei hun a chymunedau cyfagos Pen-parc, Aber-porth, Llechryd, Gwbert a Llandudoch.

Cyfeiriad
Gorsaf Dân Aberystwyth
Trefechan
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 1BE

Ffôn
0370 6060699

Ebost
post@tancgc.gov.uk

 

A wyddech chi...
Mae gan ardal Aberystwyth boblogaeth o ryw 33,000 ac mae'r orsaf yn darparu ymateb brys ar gyfer y dref ei hun a chymunedau cyfagos Llanbadarn Fawr, Capel Bangor, Ponterwyd, y Borth, Bow Street, Tal-y-bont, Tre'r Ddôl a Llanrhystud. Lleolir y timau rheoli a'r timau gweinyddu yn yr orsaf ynghyd â'r personél amser cyflawn, wedi'u cefnogi gan griwiau Ar Alwad.

 

Cyfeiriad
Gorsaf Dân ​Borth
Borth
Aberystwyth
Ceredigion
SY24 5HY

Ffôn
0370 6060699

Ebost
post@tancgc.gov.uk

Cyfeiriad
Gorsaf Dân Cei Newydd
Uplands Square
Cei Newydd
SA45 9QH

Ffôn
0370 6060699

Ebost
post@tancgc.gov.uk

A wyddech chi...
Mae gan yr ardal boblogaeth o ryw 5,420 ac mae'r orsaf yn darparu ymateb brys ar gyfer y dref ei hun a chymunedau cyfagos Llan-arth, Cross Inn a Llangrannog.

Cyfeiriad
Gorsaf DânLlanbedr Pont Steffan
Llys Pedr
Llanbedr Pont Steffan
Ceredigion
SA48 7BX

Ffôn
0370 6060699

Ebost
post@tancgc.gov.uk

 

A wyddech chi...
Mae diffoddwyr tân yn yr orsaf hon yn derbyn hyfforddiant ychwanegol er mwyn darparu ymateb  meddygol, ar y cyd â'r gwasanaeth ambiwlans, mewn digwyddiadau lle y mae bywyd yn y fantol yn eu cymuned leol.

A wyddech chi...
Mae gan ardal Llanbedr Pont Steffan boblogaeth o ryw 11,406 ac mae'r orsaf yn darparu ymateb brys ar gyfer y dref ei hun a chymunedau cyfagos Cwm-ann, Cellan, Llanybydder, Cribyn a Llangybi.

Cyfeiriad
Gorsaf Dân Tregaron
Heol Dewi 
Tregaron
Ceredigion
SY25 6JW

Ffôn
0370 6060699

Ebost
post@tancgc.gov.uk 

A wyddech chi...
Mae diffoddwyr tân yn yr orsaf hon yn derbyn hyfforddiant ychwanegol er mwyn darparu ymateb  meddygol, ar y cyd â'r gwasanaeth ambiwlans, mewn digwyddiadau lle y mae bywyd yn y fantol yn eu cymuned leol.

A wyddech chi...
Mae gan ardal Tregaron boblogaeth o ryw 5,200 ac mae'r orsaf yn darparu ymateb brys ar gyfer y dref ei hun a chymunedau cyfagos Pontrhydfendigaid, Llangeitho, Llanddewi Brefi.

 

Gorsafoedd Powys

Cyfeiriad
​Gorsaf Dân Aber-craf
Heol yr Ysgol 
Aber-craf
Powys,
SA9 1XD

Ffôn
0370 6060699

Ebost
post@tancgc.gov.uk

A wyddech chi...
Lleolir gorsaf Aber-craf yn ardal breswyl Aber-craf ger yr Ysgol Gynradd. Mae ardal weinyddol Aber-craf yn cynnwys Ystradgynlais, Coelbren, Glyntawe, y Gurnos, Cwm-twrch Uchaf a Chwm-twrch Isaf. Mae gan ardal yr orsaf boblogaeth o 9,654.

Cyfeiriad
​​​Gorsaf Dân Aberhonddu
Ffordd Camden
Aberhonddu
Powys
LD3 7RT

Ffôn
0370 6060699

Ebost
post@tancgc.gov.uk

A wyddech chi...
Mae Aberhonddu yn dref farchnad draddodiadol yng nghanolbarth Cymru a saif ar odre mynyddoedd Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac mae ganddi boblogaeth o ryw 14,600. Y prif risgiau ar gyfer Aberhonddu a'i chymunedau cyfagos yw'r rhwydweithiau ffyrdd sy'n cynnwys nifer o gefnffyrdd prifwythiennol, gan gynnwys yr A40, yr A470, yr A478 a ffyrdd A a B eraill.

 

Cyfeiriad
​​​Gorsaf Dân Crickhowell 
Heol Beaufort 
Crucywel
Powys,
NP8 1AE

Ffôn
0370 6060699

Ebost
post@tancgc.gov.uk

A wyddech chi...
Mae Crucywel yn dref hardd wedi'i lleoli yn ne-ddwyrain Powys, ac mae ganddi boblogaeth o ryw 5,862. Mae'r dref ar gefnffordd yr A40 ac mae hefyd wedi'i lleoli ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae'r orsaf yn darparu ymateb a chymorth brys i'r dref a'i chymunedau cyfagos.

 

Cyfeiriad
Gorsaf Dân Y Gelli Gandryll
Heol Aberhonddu
Y Gelli Gandryll
Powys
HR3 5DY

Ffôn
0370 6060699

Ebost
post@tancgc.gov.uk

A wyddech chi...
Mae diffoddwyr tân yn yr orsaf hon yn derbyn hyfforddiant ychwanegol er mwyn darparu ymateb meddygol, ar y cyd â'r gwasanaeth ambiwlans, mewn digwyddiadau lle y mae bywyd yn y fantol yn eu cymuned leol.

A wyddech chi...
Lleolir y Gelli Gandryll ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Mae'r rhan fwyaf o'r dref yng Nghymru ond mae'i rhannau dwyreiniol yn Lloegr. Mae'r orsaf yn darparu gwasanaeth a chymorth brys i'r 4,100 o bobl sy'n byw yn y dref a'r cymunedau cyfagos. Y brif risg ar gyfer y Gelli Gandryll a'i chymunedau cyfagos yw'r rhwydweithiau o ffyrdd A a B yn yr ardal.

Cyfeiriad
​​​​​​Gorsaf Dân Llanandras
Lôn Delynor
Llanandras
Powys
LD8 2AN

Ffôn
0370 6060699

Ebost
post@tancgc.gov.uk

A wyddech chi...
Mae diffoddwyr tân yn yr orsaf hon yn derbyn hyfforddiant ychwanegol er mwyn darparu ymateb meddygol, ar y cyd â'r gwasanaeth ambiwlans, mewn digwyddiadau lle y mae bywyd yn y fantol yn eu cymuned leol.

A wyddoch chi..
Mae gan Lanandras boblogaeth o 4,388. Mae'r orsaf yn gwasanaethu tref Llanandras a chymunedau cyfagos Hwytyn, Maesyfed, Pencraig, Norton a Walton. Mae gan y dref nifer helaeth o dai a godwyd ar ôl y rhyfel, sydd wedi tyfu ar hyd ffordd y B4355, sy'n ffordd leol bwysig rhwng Llanandras a thref gyfagos Trefyclo yn y gogledd. Y brif risg ar gyfer Llanandras a'i chymunedau cyfagos yw'r rhwydweithiau o ffyrdd A a B yn yr ardal. Mae risgiau eraill yn cynnwys ysgol gyfun, melin porthiant, menter gydweithredol ffermwyr a gweithgynhyrchwr byrddau cylched printiedig.

 

Cyfeiriad
​​​Gorsaf Dân ​​​Llandrindod
Parc Noyadd 
Llandrindod 
Powys,
LD1 5DF

Ffôn
0370 6060699

Ebost
post@tancgc.gov.uk

A wyddech chi...
Mae Llandrindod yn ganolbwynt pendant yng Nghymru ac yn dref lawn bwrlwm gyda phoblogaeth o 9,789. Mae Llandrindod wedi cael Gorsaf Dân Gwasanaethau Cyfunol newydd, Gorsaf Heddlu a Llys Ynadon a gwblhawyd yn 2012. Mae'r orsaf dân yn gwasanaethu tref Llandrindod a chymunedau cyfagos Diserth a Thre-goed, Llanbadarn Fawr, Llangynllo, Llanllŷr a'r Groes. Mae gweddill ardal yr orsaf yn wledig yn bennaf. Y brif risg ar gyfer Llandrindod a'i chymunedau cyfagos yw'r rhwydweithiau o ffyrdd A a B yn yr ardal yn ogystal â chefnffordd yr A470. Ymhlith yr adeiladau sylweddol y mae ysbyty a choleg, ysgol gyfun, gorsaf a lein reilffordd.

 

Cyfeiriad
​​​Gorsaf Dân Llanfair Caereinion
Stryd Watergate 
Llanfair Caereinion
Powys
SY21 0RG

Ffôn
0370 6060699

Ebost
post@tancgc.gov.uk

A wyddech chi...
Mae gan y gymuned boblogaeth fach o 4,923, ac fe'i lleolir yng nghanol Sir Drefaldwyn ac yng nghalon cymuned amaethyddol eang ynghanol dyffryn afon Banw. Mae Llanfair yn dref farchnad fach ar un o ffyrdd prysuraf canolbarth Cymru ac felly mae'n borth ar gyfer pobl sydd am deithio i'r gorllewin yn ystod yr haf. Mae'r boblogaeth dros dro hon yn cynyddu'r risg ar y ffyrdd yn ystod cyfnodau'r gwyliau.

 

Cyfeiriad
​​​Gorsaf Dân Llanfair-ym-Muallt
Heol y Garth
Llanfair-ym-Muallt
Powys
LD2 3AR

Ffôn
0370 6060699

Ebost
post@tancgc.gov.uk

A wyddech chi...
Mae diffoddwyr tân yn yr orsaf hon yn derbyn hyfforddiant ychwanegol er mwyn darparu ymateb  meddygol, ar y cyd â'r gwasanaeth ambiwlans, mewn digwyddiadau lle y mae bywyd yn y fantol yn eu cymuned leol.

A wyddech chi...
Mae gan Lanfair-ym-Muallt boblogaeth o 5,715. Mae'r orsaf yn gwasanaethu tref Llanfair-ym-Muallt a chymunedau cyfagos Llys-wen, Erwyd, Llanelwedd a Llanafan Fawr. Y brif risg ar gyfer Llanfair-ym-Muallt a'i chymunedau cyfagos yw'r rhwydweithiau o ffyrdd A a B sy'n arwain at Lanfair-ym-Muallt yn ogystal â chefnffordd yr A470, sy'n mynd trwy'r dref. Mae afon Gwy yn llifo trwy'r dref ac, ar adegau, gall beri risg o lifogydd ac achub o'r dŵr.

Cyfeiriad
​​​Gorsaf Dân Llanfyllin 
Stryd Fawr
Llanfyllin
Powys
SY22 5BQ

Ffôn
0370 6060699

Ebost
post@tancgc.gov.uk

A wyddech chi...
Mae gan Lanfyllin boblogaeth o 7,528. Saif tref fach Llanfyllin yng ngogledd Sir Drefaldwyn ac yng nghalon cymuned amaethyddol eang ym mhen uchaf Cwm Cain. Mae'r orsaf yn gwasanaethu tref Llanfyllin ei hun a chymunedau cyfagos Aber-naint, Llanfechain, Tŷ-crwyn, Llanfihangel a Bwlchycibau.

Cyfeiriad
​​​Gorsaf Dân ​​​Llanidloes 
Ymagwedd yr Orsaf
Llanidloes
Powys
SY18 6EB

Ffôn
0370 6060699

Ebost
post@tancgc.gov.uk

A wyddech chi...
Mae diffoddwyr tân yn yr orsaf hon yn derbyn hyfforddiant ychwanegol er mwyn darparu ymateb  meddygol, ar y cyd â'r gwasanaeth ambiwlans, mewn digwyddiadau lle y mae bywyd yn y fantol yn eu cymuned leol.

A wyddech chi...
Mae gan Lanidloes boblogaeth o 6,134. Mae'r orsaf yn darparu gwasanaeth a chymorth brys i'r dref a'i chymunedau cyfagos. Y brif risg ar gyfer Llanidloes a'i chymunedau cyfagos yw'r rhwydweithiau o ffyrdd A a B yn ogystal â chefnffordd yr A470, sy'n mynd heibio i'r dref. Mae afon Hafren a'i hisafonydd yn llifo i mewn a thrwy'r ardal ac mae Cronfa Ddŵr Llyn Clywedog dair milltir i'r gorllewin o'r dref.

 

Cyfeiriad
​​​Gorsaf Dân Llanwrtyd
Ffordd Dolycoed 
Llanwrtyd 
Powys
LD5 4RA

Ffôn
0370 6060699

Ebost
post@tancgc.gov.uk

A wyddech chi...
Mae diffoddwyr tân yn yr orsaf hon yn derbyn hyfforddiant ychwanegol er mwyn darparu ymateb  meddygol, ar y cyd â'r gwasanaeth ambiwlans, mewn digwyddiadau lle y mae bywyd yn y fantol yn eu cymuned leol.

A wyddech chi...
Mae Llanwrtyd, sef y dref leiaf ym Mhrydain, wedi'i lleoli ynghanol Bannau Brycheiniog ac mae ganddi boblogaeth o 1875. Mae'r orsaf yn darparu gwasanaeth a chymorth brys i'r dref a'i chymunedau cyfagos. Y brif risg ar gyfer Llanwrtyd a'i chymunedau cyfagos yw'r rhwydweithiau o ffyrdd A a B yn yr ardal. Mae'r criw hefyd yn cefnogi'r Gwasanaeth Ambiwlans yn yr ardal trwy ddarparu Gwasanaeth Cyd-ymatebydd. 

 

Cyfeiriad
​​​Gorsaf Dân Machynlleth 
Ffordd Y Drenewydd
Machynlleth
Powys
SY20 8HE

Ffôn
0370 6060699

Ebost
mail@mawwfire.gov.uk

 

A wyddech chi...
Mae diffoddwyr tân yn yr orsaf hon yn derbyn hyfforddiant ychwanegol er mwyn darparu ymateb  meddygol, ar y cyd â'r gwasanaeth ambiwlans, mewn digwyddiadau lle y mae bywyd yn y fantol yn eu cymuned leol.

A wyddech chi...
Lleolir y dref mewn rhan fynyddig, wledig a choediog o ganolbarth Cymru ac mae ganddi boblogaeth o 5,505 i gyd. Mae'r orsaf dân yn gwasanaethu tref Machynlleth ei hun a chymunedau cyfagos Derwen-las, Penegoes, y Bont-faen, Abergwydol a Ffriddgate. Mae Machynlleth yn gyffordd bwysig i drafnidiaeth rhwng canolbarth, gogledd a gorllewin Cymru, ar y ffordd ac ar y rheilffordd.

Cyfeiriad
​​​Gorsaf Dân Rhaeadr Gwy
Stryd y Dwyrain
Rhaeadr Gwy
Powys
LD6 5DL

Ffôn
0370 6060699

Ebost
post@tancgc.gov.uk

A wyddech chi...
Mae gan dref Rhaeadr Gwy boblogaeth o 3,376. Saif ar groesffordd naturiol rhwng y dwyrain a'r gorllewin, y gogledd a'r de. Mae'r orsaf dân yn darparu gwasanaeth a chymorth brys i dref Rhaeadr Gwy a'i chymunedau cyfagos. Y brif risg ar gyfer Rhaeadr Gwy a'i chymunedau cyfagos yw'r rhwydweithiau o ffyrdd A a B yn ogystal â chefnffordd yr A470 sy'n mynd trwy'r dref.

 

Cyfeiriad
Gorsaf Dân Trefyclo
Heol yr Aradr
Trefyclo
Powys,
LD7 1HA

Ffôn
0370 6060699

Ebost
post@tancgc.gov.uk

A wyddech chi...
Mae gan Drefyclo boblogaeth o 4,099 ac fe'i lleolir yng ngogledd-ddwyrain Sir Faesyfed. Mae'r orsaf yn gwasanaethu tref Trefyclo a chymunedau cyfagos Bugeildy a Llangynllo. Y brif risg ar gyfer Trefyclo a'i chymunedau cyfagos yw'r rhwydweithiau o ffyrdd A a B yn yr ardal.

Cyfeiriad
​​​Gorsaf Dân Talgarth 
Lôn Bwthyn
Talgarth
Powys
LD3 0AE

Ffôn
0370 6060699

Ebost
post@tancgc.gov.uk

 

A wyddech chi...
Mae gan Dalgarth boblogaeth o 4,600. Mae'n dref wledig dawel gydag ychydig o dafarndai a gwestai, yn agos at Aberhonddu, Crucywel a'r Gelli Gandryll. Mae'r orsaf yn gwasanaethu Talgarth a chymunedau cyfagos Bronllys, Aberllynfi a Llan-gors. Gwasanaethir y gymuned gan gefnffyrdd yr A478 rhwng Talgarth a Chrucywel, yr A470 a phrif ffordd yr A438 rhwng Bronllys a'r Gelli Gandryll. Mae adeiladau sylweddol yn cynnwys storfa nwy Calor yn Aberllynfi, ysgol a chastell Bronllys. Mae gan y dref risgiau eraill sy'n cynnwys afon Gwy y galwyd criwiau i amryw o ddigwyddiadau arni.

 

Cyfeiriad
​​​Gorsaf Dân Trefaldwyn 
Ffordd Chirbury 
Trefaldwyn
Powys
SY15 6QP

Ffôn
0370 6060699

Ebost
post@tancgc.gov.uk

A wyddech chi...
Mae diffoddwyr tân yn yr orsaf hon yn derbyn hyfforddiant ychwanegol er mwyn darparu ymateb  meddygol, ar y cyd â'r gwasanaeth ambiwlans, mewn digwyddiadau lle y mae bywyd yn y fantol yn eu cymuned leol.

A wyddech chi..
Mae gan Drefaldwyn, ar y ffin â Lloegr, boblogaeth weddol fach o 5,175 ac fe'i lleolir rhwng y Drenewydd a'r Trallwng. Cymuned ffermio yw ardal Trefaldwyn yn bennaf ac nid yw canol y dref fach yn cyflwyno mwy na risg ganolig o ran tanau eiddo. Fodd bynnag, mae'r orsaf ar ffordd B rhwng y Drenewydd a'r Amwythig ac felly mae gofyn bod criw'r orsaf yn mynd i Wrthdrawiadau Traffig Ffyrdd yn aml.

 

Cyfeiriad
​​​Gorsaf Dân Y Drenewydd 
Heol Llanidloes 
​​​Y Drenewydd
Powy
SY16 1HF

Ffôn
0370 6060699

Ebost
post@tancgc.gov.uk

A wyddech chi...
Mae'i phoblogaeth o 19,074 yn golygu mai'r Drenewydd yw'r anheddiad mwyaf ym Mhowys ac mae ganddi'r ystod o wasanaethau a chyfleusterau a ddylai gael eu cysylltu ag anheddiad o'r fath. Mae systemau cefnffyrdd prysur sy'n mynd i bob cyfeiriad; mae cyfran fawr o'r cerbydau sy'n teithio trwy'r ardal yn draffig dros dro, gan arwain at gyfradd uwch ar gyfartaledd o Wrthdrawiadau Traffig Ffyrdd o gymharu â wardiau tebyg yn y sir. Mae afon Hafren yn llifo trwy'r dref a cheir llawer iawn o lifogydd ar adegau penodol o'r flwyddyn, yng nghanol y dref ac ymhellach i lawr yr afon tuag at y Trallwng.

 

Cyfeiriad
​​​Gorsaf Dân Y Trallwng
Ffordd Hafren
Y Trallwng
Powys
SY21 7AR

Ffôn
0370 6060699

Ebost
mail@mawwfire.gov.uk

A wyddech chi...
Mae gan y Trallwng boblogaeth o tua 16,000; mae'n ganolfan ranbarthol a chanddi gysylltiadau ffyrdd a rheilffyrdd da â gweddill canolbarth Cymru, gorllewin canolbarth Lloegr a'r gogledd-orllewin. Y brif risg ar gyfer y Trallwng a'i chymunedau cyfagos yw'r amryw o rwydweithiau ffyrdd yn yr ardal; yn enwedig yr A458 (T), yr A483 (T), yr A490 a nifer o ffyrdd dosbarth B a ffyrdd diddosbarth. Mae afon Hafren a nifer o isafonydd yn llifo trwy'r dref ac yn ystod yr hydref/y gaeaf, mae hynny'n achosi pryder o ran llifogydd.