Mae Rhanbarth y Gorllewin y Gwasanaeth yn cynnwys 20 o Orsafoedd Tân ac Achub wedi'u gwasgaru ar draws ardaloedd Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro..
Sir Benfro.
A wyddech chi...
Yng Ngorsaf Dân Aberdaugleddau, mae staff amser cyflawn yn gweithio ochr yn ochr â’r System Criwio Hyblyg gan ddarparu ymateb ar unwaith yn ystod y dydd rhwng 0830 a 1800 o'r gloch bob dydd. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn darparu adnodd allweddol ychwanegol ar gyfer y gymuned ac yn ymateb i'r orsaf yn ôl y gofyn. Mae ardal Aberdaugleddau'n cynnwys y dref ei hun a'i maestrefi, gan gynnwys Hakin, Hubberston, Liddeston a Steynton.
Cyfeiriad
Gorsaf Dân Aberdaugleddau
Stryd Yorke Street
Aberdaugleddau
Sir Benfro
SA73 2LL
Ffôn
0370 6060699
Ebost
post@tancgc.gov.uk
A wyddech chi...
Mae diffoddwyr tân yn yr orsaf hon yn derbyn hyfforddiant ychwanegol er mwyn darparu ymateb meddygol, ar y cyd â'r gwasanaeth ambiwlans, mewn digwyddiadau lle y mae bywyd yn y fantol yn eu cymuned leol.
A wyddech chi...
Diffoddwyr Tân ar Alwad yw criw Gorsaf Dân Arberth a chânt eu galw i'r orsaf yn ôl y gofyn. Mae gan y dref, sydd i'r de o gefnffordd yr A40 ger ffin ddwyreiniol yr Ardal Reoli, boblogaeth o 9,510. Mae'r orsaf yn gwasanaethu llawer o bentrefi bychain, gan gynnwys Tredemel i'r de a Chlunderwen i'r gogledd.
Cyfeiriad
Gorsaf Dân Arberth
Gerddi'r Ffynnon
Arberth
Sir Benfro
SA67 7BT
Ffôn
0370 6060699
Ebost
post@tancgc.gov.uk
A wyddech chi...
Mae gefeilldrefi Abergwaun a’r Wdig i’r gorllewin o fynyddoedd y Preseli ac mae ganddynt boblogaeth o 10,657. Mae’r ardal yn cynnwys Treletert a Mathri i’r de a Dinas a Threfdraeth i’r gogledd. Mae gan harbwr mwy Abergwaun â’i ddau forglawdd y daith fferi Stena Line i Iwerddon; a’r brif ganolfan hwylio ar arfordir gogledd Sir Benfro.
Cyfeiriad
Gorsaf Dân Abergwaun
Clive Road
Abergwaun
Sir Benfro
SA65 9DA
Ffôn
0370 6060699
Ebost
post@tancgc.gov.uk
A wyddech chi...
Mae diffoddwyr tân yn yr orsaf hon yn derbyn hyfforddiant ychwanegol er mwyn darparu ymateb meddygol, ar y cyd â'r gwasanaeth ambiwlans, mewn digwyddiadau lle y mae bywyd yn y fantol yn eu cymuned leol.
A wyddech chi...
Lleolir yr orsaf dân ym mynyddoedd y Preseli yng ngogledd Sir Benfro mewn ardal sydd â phoblogaeth o 5,883. Mae'r orsaf yn gwasanaethu'r rhan fwyaf o ardal y Preseli o Faenclochog i Foncath. Mae'r A487 yn mynd trwy'r dref, gan gymryd traffig o'r A40 i Aberteifi. Mae gan y dref ysgol iau ac ysgol gyfun ddwyieithog fawr, sy'n denu disgyblion o ardal helaeth o Sir Benfro. Mae'r risgiau eraill yn yr ardal yn bennaf yn rhai domestig, risgiau masnachol bach, a ffermio.
Cyfeiriad
Gorsaf Dân Crymych
Crymych
Sir Benfro
SA41 3QF
Ffôn
0370 6060699
Email Address
mail@mawwfire.gov.uk
A wyddech chi...
Mae gan Ddinbych-y-pysgod boblogaeth o 14,569 sy'n codi i fwy na 25,000 yn yr haf. Mae'r orsaf yn gwasanaethu de-ddwyrain Sir Benfro gan gynnwys Jameston, New Hedges a Saundersfoot. Y brif risg yn ardal Dinbych-y-pysgod yw'r risg yn ystod y nos oherwydd y nifer mawr o westai mawr a bach yn y dref a'r meysydd carafanau niferus yn yr ardal gyfagos.
Cyfeiriad
Gorsaf Dân Dinbych-y-pysgod
Rhodfa'r De
Dinbych-y-pysgod
Sir Benfro
SA70 7DG
Ffôn
0370 6060699
Ebost
post@tancgc.gov.uk
A wyddech chi...
Lleolir Doc Penfro ar lan ddeheuol moryd Cleddau ger hen dref Penfro ac mae gan y gytref boblogaeth gyfunol o 15,890. Mae'r orsaf yn gwasanaethu de-orllewin Sir Benfro gan gynnwys Angle, Hundleton, Freshwater East a Llandyfái.
Cyfeiriad
Gorsaf Dân Doc Penfro
Stryd Fawr
Doc Penfro
SA72 6PH
Ffôn
0370 6060699
Ebost
post@tancgc.gov.uk
A wyddech chi...
Hwlffordd yw tref sirol Sir Benfro. Yn ôl cyfrifiad 2011, mae poblogaeth o 12,042 yn byw oddi mewn i ffiniau'r plwyf. Mae'r orsaf yn anfon ymatebwyr cyntaf yn gyson i ddigwyddiadau ar draws Hwlffordd, i'r gorllewin tuag at Niwgwl, i'r gogledd tuag at Dreletert, i'r de tuag at Johnston ac mor bell i'r dwyrain ar hyd yr A40 â Phont Canaston.
Cyfeiriad
Gorsaf Dân Hwlffordd
Merlins Hill
Hwlffordd
Sir Benfro
SA61 1PE
Ffôn
0370 6060699
Ebost
post@tancgc.gov.uk
A wyddech chi...
Mae diffoddwyr tân yn yr orsaf hon yn derbyn hyfforddiant ychwanegol er mwyn darparu ymateb meddygol, ar y cyd â'r gwasanaeth ambiwlans, mewn digwyddiadau lle y mae bywyd yn y fantol yn eu cymuned leol.
A wyddech chi...
Mae Tyddewi, y ddinas leiaf yng Nghymru, wedi'i lleoli ar benrhyn yng ngorllewin Sir Benfro ac mae ganddi boblogaeth o 4,007. Mae criw Gorsaf Dân Tyddewi hefyd yn gwasanaethu cymunedau Solfach, Croes-goch a Thre-fin. Mae poblogaeth Tyddewi'n dyblu bron yn ystod tymor yr haf oherwydd nifer y twristiaid sy'n ymweld â'r ardal. Mae'n lleoliad delfrydol ar gyfer crwydro cyrion gorllewinol y sir.
Cyfeiriad
Gorsaf Dân Tyddewi
53 Stryd Lleian
Tyddewi
Sir Benfro
SA62 6NU
Ffôn
0370 6060699
Ebost
post@tancgc.gov.uk
A wyddech chi...
Mae'r ynys ond 1.5 milltir o hyd, gydag un pentref a thua 500 erw o dir âr lle tyfir cnydau i'w hallforio. Mae Caldey yn gartref i 40 o breswylwyr parhaol a thua 18 o fynachod Sistersaidd sy'n byw yn Abaty Caldey.
Cyfeiriad
Gorsaf Dân Ynys Bŷr
Goleudu'r Gorllewin
Ynys Bŷr
Sir Benfro
SA70 7UH
Ffôn
0370 6060699
Ebost
post@tancgc.gov.uk
Sir Gâr
A wyddech chi...
Mae gan ardal gymunedol gorsaf Caerfyrddin boblogaeth o ryw 30,000. Mae'r rhan helaethaf o'r ardal yn cwmpasu ardaloedd pellennig, gan gynnwys ffermydd, pentrefi, cymunedau fel Bronwydd, Capel Dewi, Meidrim, Cwm-ffrwd a Llansteffan. Y prif risgiau ar gyfer Caerfyrddin a'i chymunedau cyfagos yw prif gefnffyrdd prysur yr A40 a'r A48 sy'n cysylltu'r Deyrnas Unedig â gorllewin Cymru ac Iwerddon, cymysgedd o ffyrdd Sirol a ffyrdd B, ffermio a diwydiannau amaethyddol cysylltiedig, cyffordd prif lein y rheilffordd, ystadau diwydiannol mawr ac afon Tywi sy'n dueddol o orlifo.
Cyfeiriad
Gorsaf Dân Caerfyrddin
Heol Llwyn Pisgwydd
Caerfyrddin
Sir Gaerfyrddin
SA31 1SP
Rhif ffôn
0370 6060699
Ebost
post@tancgc.gov.uk
A wyddech chi...
Mae gan ardal gymunedol gorsaf dân Cydweli boblogaeth o ryw 8,100; mae llawer o'r boblogaeth hon yn byw yng nghymunedau gwledig Pen-bre, Trimsaran, Mynyddygarreg, Llandyfaelog a Glanyfferi. Y prif risgiau ar gyfer Cydweli a'i chymunedau cyfagos yw digwyddiadau Gwrthdrawiadau Traffig Ffyrdd a Llifogydd.
Cyfeiriad
Gorsaf Dân Cydweli
Hillfield Villas
Cydweli
Sir Gaerfyrddin
SA17 4UL
Rhif ffôn
0370 6060699
Ebost
post@tancgc.gov.uk
A wyddech chi...
Mae gan ardal gymunedol gorsaf Hendy-gwyn boblogaeth o ryw 11,000; mae llawer o'r boblogaeth hon yn byw mewn ardaloedd pellennig sy'n cynnwys ffermydd, pentrefi, pentrefannau a thref Sanclêr hefyd. Y prif risgiau ar gyfer Hendy-gwyn a'i chymunedau cyfagos yw prif gefnffyrdd prysur yr A40 i Abergwaun a'r A477 i Ddoc Penfro, sy'n cysylltu'r porthladdoedd strategol hyn â gweddill y Deyrnas Unedig.
Cyfeiriad
Gorsaf Dân Hendy-gwyn
Stryd Ollewin
Hendy-gwyn
Sir Gaerfyrddin
SA34 0AE
Rhif ffôn
0370 6060699
Ebost
post@tancgc.gov.uk
A wyddech...
Mae gan ardal gymunedol gorsaf Llandeilo boblogaeth o ryw 9,000. Mae ardal ymateb yr orsaf hefyd yn cwmpasu ardaloedd Bethlehem, Ffair-fach, Carmel, Dryslwyn, Talyllychau a Llangadog. Mae'r risgiau'n cynnwys nifer o westai, canolfannau porthiant anifeiliaid, afon Tywi, rheilffordd Calon Cymru a'r rhwydwaith ffyrdd lleol.
Cyfeiriad
Gorsaf Dân Llandeilo
Heol Caerfyrddin
Llandeilo
Sir Gaerfyrddin
SA19 6RP
Rhif ffon
0370 6060699
Ebost
post@tancgc.ov.uk
A wyddech chi...
Mae diffoddwyr tân yn yr orsaf hon yn derbyn hyfforddiant ychwanegol er mwyn darparu ymateb meddygol, ar y cyd â'r gwasanaeth ambiwlans, mewn digwyddiadau lle y mae bywyd yn y fantol yn eu cymuned leol.
A wyddech chi...
Mae gan ardal gorsaf Llandysul boblogaeth o 8,633. Mae Llandysul yn dref fach yn sir Ceredigion. Mae'r brif ardal ymateb yn ymestyn o Dalgarreg yn y gogledd i Alltwalis yn y de ac o Lanllwni yn y dwyrain i Henllan yn y gorllewin. Mae rhan helaeth o'r ardal yng Ngheredigion. Y prif risgiau yw gorsafoedd storio Nwy ac Olew West Wales Gas ac O J Williams
Cyfeiriad
Gorsaf Dân Llandysul
Heol Pencader
Llandysul
Sir Gaerfyrddin
SA44 4AE
Rhif ffôn
0370 6060699
Ebost
post@tancgc.gov.uk
A wyddech chi...
Mae diffoddwyr tân yn yr orsaf hon yn derbyn hyfforddiant ychwanegol er mwyn darparu ymateb meddygol, ar y cyd â'r gwasanaeth ambiwlans, mewn digwyddiadau lle y mae bywyd yn y fantol yn eu cymuned leol.
A wyddech chi...
Mae gan ardal gorsaf Llanelli boblogaeth o ryw 57,360. Y prif risgiau ar gyfer Llanelli yw diwydiannau trwm fel TATA Steel yn Nhrostre, Calsonic yn Felin-foel, ysbyty, ysgolion a chanolfannau siopa/adwerthu.
Cyfeiriad
Gorsaf Dân Llanelli
Rhodfa'r Gorfforaeth
Llanelli
Sir Gaerfyrddin
SA15 3PF
Rhif ffôn
0370 6060699
Ebost
post@tancgc.gov.uk
A wyddech...
Mae gan ardal gymunedol gorsaf Llanymddyfri boblogaeth fras o 6,000; mae llawer o hyn yn cynnwys ardaloedd gwledig anghysbell gan gynnwys ffermydd a phentrefi gan gynnwys cymunedau Llangadog, Llanwrda, Rhandirmwyn, Cilycwm a Crugybar.
Cyfeiriad
Gorsaf Dân Llanymddyfri
Heol Llanfair
Llanymddyfri
Sir Gaerfyrddin
SA20 0HY
Rhif ffon
0370 6060699
Ebost
post@tancgc.ov.uk
A wyddech chi...
Mae diffoddwyr tân yn yr orsaf hon yn derbyn hyfforddiant ychwanegol er mwyn darparu ymateb meddygol, ar y cyd â'r gwasanaeth ambiwlans, mewn digwyddiadau lle y mae bywyd yn y fantol yn eu cymuned leol.
A wyddech chi...
Mae gan ardal gorsaf Castellnewydd Emlyn boblogaeth o 8,912. Mae'r orsaf yn darparu ymateb brys i'r pentrefi cyfagos canlynol: Cenarth, Capel Iwan, Dre-fach, Henllan a Rhydlewis ynghyd â phentrefi bychain a phentrefannau eraill. Y prif risgiau yw'r rhwydwaith o ffyrdd sy'n bwydo'r dref o dri chyfeiriad, ac afon Teifi sy'n llifo gerllaw'r dref.
Cyfeiriad
Gorsaf Dân Castellnewydd
Heol Newydd
Castellnewydd Emlyn
Sir Gaerfyrddin
SA38 9BA
Rhif ffôn
0370 6060699
Ebost
post@tancgc.gov.uk
A wyddech chi...
Mae gan ardal gymunedol gorsaf Pont-iets boblogaeth o ryw 8,631 ac mae llawer o'r boblogaeth hon yn byw mewn ardaloedd gwledig pellennig sy'n cynnwys cymunedau Pont-henri, Meinciau, Carwe, Pump-hewl ac ardaloedd Trimsaran a Phontyberem. Y prif risgiau yw afon Gwendraeth, sy'n gallu achosi risg llifogydd weithiau, a'r rhwydwaith o ffyrdd llai sy'n cysylltu'r pentrefi a'r trefi lleol.
Cyfeiriad
Gorsaf Dân Pont-iets
Heol Meinciau
Pont-iets
Sir Gaerfyrddin
SA15 5TR
Rhif ffôn
0370 6060699
Ebost
post@tancgc.gov.uk
A wyddech chi...
Mae'r orsaf yn gwasanaethu poblogaeth o ryw 22,000 o bobl. Mae canran fawr o'r digwyddiadau yn Rhydaman yn Wrthdrawiadau Traffig Ffyrdd a Galwadau am Wasanaeth Arbennig lle bydd eu peiriannau arbenigol yn werthfawr dros ben.
Cyfeiriad
Gorsaf Dân Rhydaman
Heol Wallasey
Rhydaman
Sir Gaerfyrddin
SA18 2LU
Ffôn
0370 6060699
Ebost
post@tancgc.gov.uk
A wyddech chi...
Mae gan ardal gymunedol Gorsaf Dân y Tymbl boblogaeth o ryw 12,436. Mae'r ardal ymateb yn ymestyn o Garmel yn y gogledd i Lan-non yn y de, ac o Gapel Hendre yn y dwyrain i Landdarog yn y gorllewin. Y brif risg ar gyfer y Tymbl a'r ardaloedd cyfagos yw'r rhwydwaith o ffyrdd A a B yn ogystal â chefnffordd yr A48.
Cyfeiriad
Gorsaf Dân Y Tymbl
Heol Llety
Y Tymbl
Sir Gaerfyrddin
SA14 6BN
Rhif ffôn
0370 6060699
Ebost
post@tancgc.gov.uk