Diolch i bawb sy’n rhoi dillad i’r banciau ailgylchu Elusen y Diffoddwyr Tân sydd i’w cael tu allan i sawl un o'n Gorsafoedd Tân.
Ers mis Ebrill eleni, mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi casglu £20,962, gyda chyfanswm pwysau o 95,281kg.
Dros y cyfnod hwn, y mannau casglu mwyaf poblogaidd o fewn ardal y Gwasanaeth oedd Gorsafoedd Tân Glyn-nedd a Chastell-nedd. Gyda'i gilydd, mae'r banciau ailgylchu hyn wedi casglu £2,800, gyda chyfanswm pwysau o 20,640kg. Tipyn o gamp!
Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i gefnogi holl aelodau Gwasanaethau Tân y DU a’u teuluoedd, boed hynny’n aelodau sy’n dal i wasanaethu neu wedi ymddeol. Mae'r elusen yn cynnig cefnogaeth oes i'n cymuned o ddiffoddwyr tân. Gallan nhw gynnig cymorth gydag iechyd meddwl ac iechyd corfforol, yn ogystal â chefnogaeth gymdeithasol a lles.