22.10.2026

Blwyddyn o Gefnogaeth Eithriadol i'r Elusen Ymladdwyr Tân

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae GTACGC wedi codi’r swm anhygoel o £147,000 ar gyfer Elusen y Diffoddwyr Tân!

Gan Rachel Kestin



Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae GTACGC wedi codi’r swm anhygoel o £147,000 ar gyfer Elusen y Diffoddwyr Tân!

Codwyd y cyfanswm trawiadol hwn trwy ymroddiad ein staff gweithredol a’n staff cefnogol, a gymerodd ran mewn digwyddiadau codi arian, golchi ceir mewn gorsafoedd tân, Diwrnodau Agored a mwy. Rydym am ddiolch yn ddiffuant i bawb y cyfrannodd eu gwaith caled a'u haelioni at y llwyddiant hwn.

Mae Elusen y Diffoddwyr Tân yn cynnig cymorth gydol oes i les meddyliol, corfforol a chymdeithasol diffoddwyr tân sy'n gwasanaethu a’r rhai sydd wedi ymddeol, ac i’w teuluoedd a phersonél eraill y Gwasanaethau Tân ac Achub.

Yn y llur y chwith: Claire McMinn - Codwr Arian Rhanbarthol ar gyfer De Cymru, a Gorllewin Lloegr yn Elusen y Diffoddwyr Tân; Y Prif Swyddog Tân Craig Flannery; a Nerys Thomas - Cydlynydd Gwasanaeth Elusen y Diffoddwyr Tân.


Erthygl Flaenorol