Ymunodd aelodau o Dîm Diogelwch ar y Ffyrdd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) â GanBwyll a Chyngor Sir Caerfyrddin yn y digwyddiad lle buont yn hyrwyddo pwysigrwydd diogelwch gyrwyr ifanc ar ffyrdd.
Roedd yn wych gweld cymaint o ymgysylltu gan y cyhoedd ar ddiogelwch ar y ffyrdd, Y Pum Angheuol ac Ymgyrch Ugain. Cafwyd llawer o drafodaethau cadarnhaol gyda gyrwyr a'r gymuned leol.
Gyda'n gilydd, gallwn wneud y ffyrdd yn fwy diogel i bawb!