29.05.2024

Canmoliaeth yr Uchel Siryf ar gyfer Staff Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru

Yn gynharach eleni, derbyniodd dau aelod o staff Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru Ganmoliaeth gan Uchel Siryf Dyfed.

Gan Rachel Kestin



Yn gynharach eleni, derbyniodd dau aelod o staff Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru Ganmoliaeth gan Uchel Siryf Dyfed.

Cafodd y Rheolwr Gwylfa Steve Jones a'r Swyddog Addysg Cymunedol Elinor Goldsmith eu cydnabod am eu gwasanaeth eithriadol i'r gymuned gan Uchel Siryf Dyfed ar y pryd, Meurig Raymond CBE.

Yng nghwmni Arglwydd Raglaw Dyfed a’r cyn-gyflwynydd newyddion ar gyfer y BBC, Sara Edwards, cynhaliwyd seremoni gyflwyno arbennig yng Ngwesty Gwledig Crug Glâs yn Sir Benfro ddydd Sadwrn, 16 Mawrth.




Elinor Goldsmith
Swyddog Addysg Cymunedol



Ar hyn o bryd mae Elinor yn ei 26ain flwyddyn o weithio yn GTACGC, ar ôl ymuno ym mis Mawrth 1999, ac mae wedi bod yn gweithio yn nhîm Diogelwch Tân Cymunedol y Gwasanaeth ers dros 22 mlynedd.

Fel rhan o'i rôl, mae Elinor yn ymweld â nifer fawr o ysgolion ar draws ardal y Gwasanaeth bob blwyddyn, gan ddarparu gwybodaeth am ddiogelwch tân a lleihau tanau bwriadol i oddeutu 12,000 o blant ysgol bob blwyddyn. 

Mae Elinor yn cael ei chydnabod yn lleol fel model rôl go iawn, ac mae pawb yn ei hadnabod fel 'Elinor Tân'. Mae hi'n aml yn cael ei hadnabod gan blant, rhieni ac athrawon y mae hi wedi gweithio gyda nhw wrth gyflwyno ei sesiynau diddorol, addysgiadol ac ysbrydoledig.

Yn ogystal â'i hymweliadau ysgol, mae Elinor hefyd yn cynnal ymweliadau Diogel ac Iach ar ran y Gwasanaeth drwy gydol y flwyddyn, sy'n cynnwys gosod larymau mwg, gwybodaeth diogelwch tân yn y cartref, ymwybyddiaeth sgamiau, mynd i'r afael ag unigrwydd a mwy.

Wrth siarad am dderbyn ei Chanmoliaeth gan yr Uchel Siryf, dywedodd Elinor:

"Rwyf wedi cofleidio fy rôl fel Swyddog Addysg Cymunedol dros y 22 mlynedd diwethaf ac rwy'n dal i fwynhau cyflwyno a dysgu negeseuon diogelwch tân i'r genhedlaeth nesaf a fydd yn cyfrannu tuag at gymunedau mwy diogel yn ardal ein Gwasanaeth. Mae'n anrhydedd mawr i mi gael fy nghydnabod gan yr Uchel Siryf am wasanaethau i'r gymuned ac edrychaf ymlaen at gynnal lefelau uchel o ymgysylltu ag ysgolion lleol."


Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf