24.04.2026

Deall Peryglon Dŵr 2026

Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) yn annog y cyhoedd i 'Ddeall Peryglon Dŵr' wrth i ni weld y tywydd yn cynhesu

Gan Rachel Kestin



Mae GTACGC yn annog y cyhoedd i gymryd gofal ychwanegol yn y dŵr ac o amgylch dŵr gyda’r tywydd cynhesach ar y gorwel. Daw'r alwad fel rhan o ymgyrch #DeallPeryglonDŵr blynyddol Cyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Tân (NFCC).

Yn rhedeg o ddydd Llun 27 Ebrill i ddydd Sul 3 Mai, mae'r ymgyrch yn tynnu sylw at y risg barhaus o foddi damweiniol, sy’n risg y gellir ei atal. Mae ffigyrau'n dangos bod 1,602 o bobl yn y DU wedi colli eu bywydau rhwng 2019 a 2024 drwy foddi’n ddamweiniol. Digwyddodd 56% (901) mewn dyfroedd mewndirol fel afonydd, llynnoedd a chronfeydd dŵr. Yn frawychus, nid oedd gan hanner y bobl a foddodd unrhyw fwriad i fynd i mewn i'r dŵr, gyda llithro, baglu a chwympo wedi'u nodi fel prif achosion.

Mae'r data hefyd yn dangos bod 82% o farwolaethau boddi damweiniol yn digwydd i ddynion, gan bwysleisio'r angen am fwy o ymwybyddiaeth ymhlith y rhai sydd fwyaf mewn perygl. Mae'r neges yn glir: mae diogelwch dŵr yn dechrau ar y tir, a gall dewisiadau syml ger y dŵr achub bywydau.

Mae'r ymgyrch hefyd yn rhybuddio rhag peryglon mynd i ddŵr agored i oeri. Gall llawer o bobl, yn enwedig y rhai nad ydynt yn gyfarwydd â nofio awyr agored, danamcangyfrif risgiau cudd. Mae peryglon tanddwr a thymheredd dŵr sy’n gyson yn isel yn golygu bod sioc dŵr oer yn parhau i fod yn berygl gwirioneddol, hyd yn oed ar ddiwrnodau poeth. Gall hyn wneud i chi gymryd anadl anwirfoddol, anadlu’n gyflym, mynd i banig, a cholli’r gallu i nofio yn sydyn, gan gynyddu'r risg o foddi'n sylweddol.

Dywedodd Gavin Ellis, arweinydd Atal Boddi Cyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Tân:

"Byddai'r rhan fwyaf o bobl yn cael sioc o glywed faint o fywydau a gollwyd dim ond oherwydd bod pobl yn treulio amser mewn ac o amgylch y dŵr. Gallwn atal y marwolaethau hyn, felly gofynnwn i bawb fod yn ymwybodol o ddŵr. Mae Cyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Tân yn gweithio'n agos gyda'r gwasanaethau tân a phartneriaid tân i annog pobl i fod yn ddiogel o amgylch dŵr ac i dynnu sylw at y risg o foddi damweiniol. Wrth i'r tywydd wella, gall gwasanaethau tân ledled y wlad, ochr yn ochr â chydweithwyr yng Ngwylwyr y Glannau EF a'r RNLI, wynebu nifer enfawr o alwadau i helpu pobl mewn trafferthion yn y dŵr. Trwy godi ymwybyddiaeth nawr, gobeithiwn leihau nifer y digwyddiadau, anafiadau a marwolaethau wrth i ni symud tuag at fisoedd yr haf."



Dyma rai awgrymiadau syml er mwyn helpu i gadw'n ddiogel mewn dŵr ac o gwmpas dŵr:

  • Cadwch at lwybrau priodol a chadwch draw o ymyl y dŵr, yn enwedig wrth gerdded neu redeg.
  • Osgowch bod yn agos at ddŵr yn y tywyllwch, mewn tywydd gwael, neu pan fydd arwynebau'n llithrig.
  • Peidiwch byth â mynd i'r dŵr ar ôl yfed alcohol a dewiswch lwybr diogel adref gyda ffrindiau sy'n osgoi dŵr.
  • Peidiwch byth â mynd i mewn i'r dŵr i achub rhywun arall neu anifail - ffoniwch 999 ar unwaith a defnyddiwch offer achub os yw ar gael.
  • Wrth dreulio amser yn agos i ddŵr, gartref neu dramor, byddwch yn ymwybodol o'r canllawiau diogelwch lleol a gwnewch yn siŵr bod plant yn cael eu goruchwylio'n llawn.

Nid yw llawer o bobl yn disgwyl i'w hamser ger y dŵr droi'n argyfwng, felly gall gwybod beth i’w wneud os ydych chi neu rywun arall yn mynd i drafferth achub bywydau.

Os oes rhywun mewn trafferth yn y dŵr, y ffordd orau i helpu yw cadw’ch pwyll, aros ar dir sych, a chofio Ffonio, Dweud, Taflu:

  • Ffoniwch 999 i alw’r gwasanaethau brys.
  • Dywedwch wrth y person sydd mewn trafferth arnofio ar eu cefn.
  • Taflwch rywbeth sy’n arnofio atynt.

Os byddwch chi mewn trafferth yn y dŵr, cofiwch 'Arnofio i Fyw'. Rhowch eich pen yn ôl gyda’ch clustiau o dan y dŵr. Ymlaciwch, ceisiwch anadlu yn ôl yr arfer. Symudwch eich dwylo i'ch helpu i arnofio. Cadwch eich coesau a’ch breichiau ar led. Pan fyddwch wedi cael rheolaeth ar eich anadl, galwch am gymorth neu nofiwch i rywle diogel.

I gael rhagor o wybodaeth am ymgyrch #DeallPeryglonDŵr, ewch i: Be Water Aware - NFCC


Erthygl Flaenorol