28.07.2026

Deng Mlynedd ar Hugain o Ymroddiad yn cael ei Gydnabod ym Mlwyddyn Pen-blwydd y Gwasanaeth

Fis yma, mae'r Rheolwr Gorsaf Paul Armes yn dathlu 30 mlynedd o wasanaeth gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, sydd hefyd yn nodi ei ben-blwydd yn 30 oed.

Gan Steffan John



Fis yma, mae'r Rheolwr Gorsaf Paul Armes yn dathlu 30 mlynedd o wasanaeth gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC), sydd hefyd yn nodi ei ben-blwydd yn 30 oed.

Datblygodd Paul ddiddordeb mewn ymuno â'r Gwasanaeth Tân ac Achub o oedran ifanc.  Pan oedd yn 16 oed, symudodd ef a'i deulu o Portsmouth i'r Drenewydd, gan fyw gyferbyn â Gorsaf Dân y dref.

Ar ôl ystyried gyrfa fel Diffoddwr Tân, dechreuodd Paul gwrs hyfforddi recriwtiaid yn 1996. Roedd y cwrs yn cynnwys modiwl 12 wythnos o'r enw ‘Module to Ride’, a oedd yn ymdrin â diogelwch sylfaenol ar safleoedd tân, gosod a defnyddio ysgolion, trin pibellau a hydrantau, technegau darparu dŵr, yn ogystal â’r clymau a'r rhaffau hanfodol.

Mae Paul wedi mwynhau gyrfa hir ac amrywiol yn GTACGC.  Ar ôl cwblhau ei hyfforddiant ac ymuno â GTACGC oedd newydd ei ffurfio fel Diffoddwr Tân Ar Alwad, cafodd ei ddyrchafu'n Rheolwr Criw, a elwid bryd hynny’n Ddiffoddwr Tân Arweiniol, yn 2003.  Ar ôl mwy nag 20 mlynedd fel Diffoddwr Tân Ar Alwad, daeth Paul yn Ddiffoddwr Tân Amser Cyflawn yn 2017, gan ymuno â'r criw yng Ngorsaf Dân Aberystwyth. 




Wrth siarad am newid o Ddiffoddwr Tân Ar Alwad i Ddiffoddwr Tân Amser Cyflawn, dywedodd Paul:

"Mae'r sgiliau a'r profiad roeddwn i wedi'u hennill trwy fy rôl fel Diffoddwr Tân Ar Alwad yn sicr wedi fy helpu i addasu i ddod yn Ddiffoddwr Tân Amser Cyflawn.  Roedd llawer mwy o strwythur i fywyd bob dydd yn yr orsaf, ac roedd y gwiriadau oedd yn cael eu cynnal ar gerbydau ac offer yn llawer mwy manwl.”



Yn 2019, dychwelodd Paul i Orsaf Dân y Drenewydd fel Swyddog Cyswllt yr Orsaf, gan ymuno hefyd ag Adran Diogelwch Tân Busnesau GTACGC. Yn y rôl hon, bu’n gweithio’n agos gyda pherchnogion busnesau lleol i helpu i sicrhau cydymffurfiaeth â deddfwriaeth a chanllawiau diogelwch tân.

Ym mis Hydref 2025, penodwyd Paul yn Rheolwr Gorsaf Dros Dro Gorsaf Dân y Trallwng, sy'n golygu goruchwylio gweithrediadau’r orsaf o ddydd i ddydd, yn ogystal â chefnogi hyfforddiant, datblygu a rheoli perfformiad Rheolwyr Gwylfa a'u timau.

Yn ystod ei yrfa, mae Paul wedi cael ei alw i nifer o ddigwyddiadau nodedig, gan gynnwys tân yng Ngwesty Tŷ Belgrave yn Aberystwyth ym mis Gorffennaf 2018, sawl tân ysgubor mawr, gwrthdrawiadau difrifol ar y ffyrdd, a chael ei alw i Lundain gyda'r Pwmp Cyfaint Uchel (HVP).

Wrth fyfyrio ar ei 30 mlynedd o wasanaeth, mae Paul wedi gweld newidiadau sylweddol yn GTACGC, gan gynnwys datblygiadau mewn offer diffodd tân, arferion yr ochr weithredol a rôl y Diffoddwr Tân modern.



Ychwanegodd Paul:

"Er ein bod ni’n dal i ddefnyddio llawer o'r un offer heddiw ag yr oedden ni’n ei wneud pan ymunais â'r Gwasanaeth gyntaf, mae datblygiadau mewn technoleg wedi gwella'r rôl yn sylweddol. Mae'r offer rydyn ni'n ei ddefnyddio mewn gwrthdrawiadau ar y ffyrdd wedi esblygu i gadw i fyny â datblygiadau mewn cerbydau modern, tra bod cyflwyno camerâu delweddu thermol wedi gwella ein gallu i ymateb i danau yn sylweddol."



Wrth fyfyrio ar y cyngor y byddai'n ei roi i unrhyw un sy'n ystyried dod yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad, roedd Paul yn cydnabod yr ymrwymiad sydd ei angen ar y rôl, yn ogystal â'r rhwydwaith cryf o gefnogaeth sy'n dod gyda hi.



Dywedodd:

"Mae'n ymrwymiad sylweddol, nid yn unig i'r unigolyn ond hefyd i'w deulu.  Fodd bynnag, mae'r Gwasanaeth Tân ac Achub yn un teulu mawr mewn gwirionedd.

Yn sicr, nid yw'n rôl naw tan bump.  O’r amser y gallech chi gael eich galw i ddigwyddiad i'r math o ddigwyddiad y gallech chi gael eich galw iddo, nid oes unrhyw ddau ddiwrnod byth yr un fath.  Mae'r rôl yn esblygu'n gyson, fel y mae'r digwyddiadau rydyn ni'n ymateb iddyn nhw.  Yn ystod fy ngyrfa, rydw i wedi gweld newid mawr yn y mathau o ddigwyddiadau rydyn ni'n cael ein galw iddyn nhw, gyda llai o danau ond cynnydd mewn galwadau sy'n gysylltiedig â materion meddygol.

Ar y cyfan, mae'n rôl hynod werth chweil sy'n cynnig cyfleoedd ar gyfer datblygiad personol ac yn caniatáu i chi fod yn rhan o dîm gwych."




30 Mlynedd o GTACGC

Ers ei ffurfio ym 1996, mae'r Gwasanaeth wedi tyfu i fod yn un o'r sefydliadau tân ac achub mwyaf yn y DU, gan gwmpasu tirwedd eang ac amrywiol sy'n cynnwys cymunedau gwledig, trefi arfordirol, a dinasoedd prysur.

Dros y blynyddoedd, mae ein timau wedi ymateb i filoedd o argyfyngau, wedi hyrwyddo addysg diogelwch tân, ac wedi addasu'n barhaus i heriau newydd gyda phroffesiynoldeb a gwydnwch.



Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad a Gwnewch Wahaniaeth Go Iawn

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio ar gyfer Diffoddwyr Tân Ar Alwad.  Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth ac eich cymuned.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.

Erthygl Flaenorol