Bydd Tommy Hatton, Rheolwr Criw o Orsaf Dân Crucywel a Diffoddwr Tân yng Nghanolfan Rheoli Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC), yn teithio i Efrog Newydd yn hwyrach yn y mis i geisio cwblhau’r her Tunnel to Towers 5k enwog ar ddydd Sul, 27 Medi.
Dyma ddigwyddiad blynyddol i anrhydeddu'r 343 o Ddiffoddwyr Tân o Adran Dân Dinas Efrog Newydd (FDNY), yr aelodau o’r heddlu a’r miloedd o sifiliaid a laddwyd yn ymosodiadau 11 Medi, 2001.
Bob blwyddyn, mae degau o filoedd o redwyr, cerddwyr, ymatebwyr cyntaf a chyn-filwyr yn dilyn ôl troed Diffoddwr Tân FDNY, Stephen Siller, ar ei daith olaf. Roedd Stephen newydd orffen ei sifft pan glywodd y newyddion bod awyren wedi taro Canolfan Masnach y Byd. Gyrrodd at fynedfa’r Brooklyn Battery Tunnel, a gweld ei fod ar gau am resymau diogelwch. Er hyn, roedd yn benderfynol o helpu, a rhedodd trwy'r twnnel a’r holl ffordd at y tyrau gan gario dros 60 pwys o offer diffodd tanau. Bu farw yno yn helpu eraill.
Bydd Tommy yn dilyn y llwybr 5K yn ei holl git diffodd tân er cof am y rhai a fu farw ar 9/11 ac i gasglu arian ar gyfer Elusen y Diffoddwyr Tân, sy'n darparu cymorth gydol oes i aelodau cymuned tân ac achub y DU sy’n gwasanaethu yn awr neu wedi ymddeol.