08.05.2024

Diffoddwr Tân o Lanidloes yn Ymddeol ar ôl 45 Mlynedd o Wasanaeth

Ddydd Mercher, 1 Mai, daeth criw Llanidloes at ei gilydd yng Ngorsaf Dân Llanidloes i ddathlu ymddeoliad Brian a'i noson ymarfer olaf. 

Gan Rachel Kestin



Ddydd Mercher, 1 Mai, daeth criw Llanidloes at ei gilydd yng Ngorsaf Dân Llanidloes i ddathlu ymddeoliad Brian a'i noson ymarfer olaf. 

I nodi gwasanaeth eithriadol Brian, daeth ei gydweithwyr - y rhai sy’n gwasanaethu ac sydd wedi ymddeol - ffrindiau a theulu ynghyd i wylio’r Prif Swyddog Tân Cynorthwyol Craig Flannery yn cyflwyno ei Dystysgrif Gwasanaeth iddo.

Ymunodd Brian â Brigâd Dân Powys, fel yr oedd ar y pryd, ar 25 Ebrill 1979 ac ers hynny mae wedi dangos ymroddiad parhaus.

Dywedodd Martyn Field, Rheolwr yr Orsaf:

"Mae Brian wedi rhoi gwasanaeth eithriadol i'r Gwasanaeth Tân ac Achub a'i gymuned. Mae’n hynod o brin cael rhywun yn gwasanaethu mor hir â hyn a bydd Brian yn sicr yn gadael bwlch mawr ar ei ôl yng Ngorsaf Dân Llanidloes a bydd hiraeth mawr amdano. Rydym i gyd yn dymuno'n dda iddo ar ei ymddeoliad ac yn diolch iddo am bopeth y mae wedi'i wneud yn ystod ei yrfa."




Y Diffoddwr Tân Brian Hamer gyda'r Prif Swyddog Tân Cynorthwyol Craig Flannery.




Allech chi Ddod yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad?

Treuliodd y Diffoddwr Tân Brian Hamer dros 45 mlynedd fel Diffoddwr Tân Ar Alwad. Allech chi ddilyn ôl ei droed?

Mae Llanidloes yn Orsaf Dân Ar Alwad, sy'n golygu bod ei diffoddwyr tân yn cael eu hysbysu am alwadau brys trwy beiriant galw personol, y maen nhw'n ei gario gyda nhw pan fyddant ar ddyletswydd.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru  yn recriwtio am Ddiffoddwyr Tân Ar Alwad yn ein holl Orsafoedd Tân Ar Alwad ar hyn o bryd.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau.  Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, sy'n ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.

Dysgwch fwy am sut i ddod yn Ddiffoddwr Tân ar Alwad yma.

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf