07.08.2026

Diffoddwyr Tân Cymru yn paratoi ar gyfer her Dringo Grisiau er Cof am 9/11 yn Atlanta

Ym mis Medi, bydd naw diffoddwr tân o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) yn ymgymryd â her 110 llawr i anrhydeddu'r 343 o ddiffoddwyr tân a fu farw ar 11 Medi, 2001.

Gan Rachel Kestin



Ym mis Medi, bydd naw diffoddwr tân o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) yn ymgymryd â her 110 llawr i anrhydeddu'r 343 o ddiffoddwyr tân a fu farw ar 11 Medi, 2001.

Mae'r tîm ar hyn o bryd yn hyfforddi ar gyfer her unigryw a theimladwy a fydd yn eu gweld yn teithio i Atlanta, UDA, i gymryd rhan mewn her Dringo Grisiau er cof am 9/11, gan nodi 25 mlynedd ers yr ymosodiadau terfysgol.

Byddant yn dringo 110 llawr, sy'n cyfateb i uchder tyrau Canolfan Masnach y Byd, mewn teyrnged i'r 343 o ddiffoddwyr tân a wnaeth yr aberth eithaf wrth ymateb i'r digwyddiadau ar 11 Medi, 2001.

Yn cynrychioli GTACGC yn y digwyddiad bydd y Rheolwyr Gorsaf, Carl Williams ac Oliver Tziros, y Rheolwyr Criw Antony Pugh a Steven Ratcliff a'r Diffoddwyr Tân Rebecca Barden, Rhys Fitzgerald, Lisa Reynolds, Cristian James a Trystan Griffiths.

Bydd yr her dringo grisiau yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn, 5 Medi 2026, ac mae'r criw wedi bod yn hyfforddi ers misoedd i baratoi ar gyfer yr esgyniad heriol.

Ochr yn ochr â choffáu’r rhai a fu farw, yr her hefyd yw codi arian sydd ei angen yn fawr ar gyfer tri achos elusennol sy’n cefnogi aelodau o gymuned y gwasanaethau brys a’u teuluoedd:

  • Elusen y Diffoddwyr Tân – sy’n rhoi cefnogaeth sy'n newid bywydau i ddiffoddwyr tân y DU a'u hanwyliaid (DU).
  • Sefydliad Cerdyn Golau Glas – sy’n hyrwyddo lles corfforol, meddyliol ac emosiynol y Gymuned Golau Glas gyfan, gan gynnwys personél iechyd, argyfwng, gofal cymdeithasol, a phersonél y lluoedd arfog, gan gydnabod y rôl hanfodol y maen nhw’n ei chwarae mewn cymdeithas bob dydd (DU).
  • Cronfa Diffoddwyr Tân Terry Farrell – sy’n cefnogi diffoddwyr tân a'u teuluoedd yn yr Unol Daleithiau 

Maen nhw’n gobeithio, trwy ymgymryd â'r her hon, y byddan nhw nid yn unig yn anrhydeddu cof am y 343 diffoddwr tân a fu farw ar 9/11 ond hefyd yn ysbrydoli eraill i gydnabod yr ymrwymiad a'r aberth parhaus y mae personél y gwasanaethau brys yn ei ddangos bob dydd.

Mae'r ymdrech codi arian hon hefyd yn digwydd yn ystod blwyddyn nodedig i GTACGC wrth iddo ddathlu ei ben-blwydd yn 30 oed. Er bod dringo’r grisiau yn gyfle i gofio ac anrhydeddu'r 343 o ddiffoddwyr tân a fu farw ar 9/11, mae hefyd yn ffordd ystyrlon i'r tîm gydnabod y gwerthoedd sydd wedi llunio GTACGC dros y 30 mlynedd diwethaf. Drwy gofio, gwasanaethu a chefnogi cyd-bersonél y gwasanaethau brys, mae'r her yn adlewyrchu'r ymrwymiad i'r gymuned sydd wedi diffinio'r sefydliad ers ei ffurfio yn 1996.

Dywedodd aelod arweiniol y tîm, y Rheolwr Gorsaf, Carl Williams:

"Rwy'n teimlo anrhydedd mawr fy mod wedi cael fy newis i gymryd rhan yn yr her hon ac yn falch o gynrychioli Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn Atlanta ochr yn ochr â'm cydweithwyr. Mae cymryd rhan yn y her dringo grisiau hon yn gyfle i anrhydeddu'r 343 o ddiffoddwyr tân a fu farw ar 9/11 ac i sicrhau nad yw eu dewrder a'u haberth byth yn cael ei anghofio." "Rydyn ni i gyd yn falch o gynrychioli'r Gwasanaeth, ein cymunedau a'r sector tân yn y DU ar lwyfan rhyngwladol, gan sefyll ochr yn ochr mewn cof, parch ac undod wrth i 25 mlynedd ers yr ymosodiadau agosáu."



Os hoffech gefnogi'r tîm, gallwch gyfrannu i Carl Williams JustGiving / Presteigne Fire Station JustGiving fodd bynnag, mae sawl tudalen JustGiving wedi'i sefydlu, gydag ymgyrchoedd codi arian ychwanegol yn cael eu trefnu gan orsafoedd sy'n cymryd rhan, gan gynnwys Gorsaf Dân Llanandras.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Carl Williams C.Williams@mawwfire.gov.uk

Hoffem ddymuno'r gorau i'r tîm ar gyfer yr her!



Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf