16.04.2026

Diffoddwyr Tân yn Achub Ŵyn yng Nghydweli

Ddydd Mercher, Ebrill 15fed, achubodd criw Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsaf Dân Cydweli dri oen a oedd yn sownd mewn ffos dŵr.

Gan Steffan John



Am 9.39yh, nos Fercher, Ebrill 15fed, galwyd y criw Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsaf Dân Cydweli i ddigwyddiad ar hyd Heol Rhydymynach yng Nghydweli.

Ymatebodd y criw i dri oen a oedd wedi mynd yn sownd tua 20 metr i lawr ffos dŵr cerrig a oedd wedi’i leoli tua thri i bedwar metr o dan y ddaear.  Dangosodd y criw fenter ragorol gan ddefnyddio pecyn chwyddo pibell, llinellau pwrpas cyffredinol a rhawiau i gloddio sawl twll i leoli’r ffos ac i achub yr ŵyn.

Gadawodd y criw am 11.46yh.  Mae’r lluniau’n dangos criw Cydweli gyda dau o’r ŵyn cyn iddynt gael eu dychwelyd yn ddiogel i ofal eu perchennog.





Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad a Gwnewch Wahaniaeth Go Iawn

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio ar gyfer Diffoddwyr Tân Ar Alwad.  Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth ac eich cymuned.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.

Erthygl Flaenorol