10.06.2026

Diffoddwyr Tân yn Cystadlu yn Her Diffoddwyr Tân Cymru 2026

Ddydd Sadwrn, Mehefin 6ed, daeth Diffoddwyr Tân o bob cwr o'r DU ynghyd yn Abertawe i gystadlu yn Her Diffoddwyr Tân Cymru, a gynhaliwyd yn Arena Abertawe.

Gan Steffan John



Ddydd Sadwrn, Mehefin 6ed, daeth Diffoddwyr Tân o bob cwr o'r DU ynghyd yn Abertawe i gystadlu yn Her Diffoddwyr Tân Cymru, a gynhaliwyd yn Arena Abertawe.

Yn ddigwyddiad a gynhelir yn flynyddol gan Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC), mae Her Diffoddwyr Tân Cymru yn dod â Diffoddwyr Tân o bob cwr o'r Deyrnas Unedig a thramor ynghyd i ymgymryd â chyfres o brofion corfforol a meddyliol heriol - pob un wedi'i gwblhau mewn cit tân llawn. 

Mae'r digwyddiad wedi'i gynllunio er mwyn arddangos y sgil, y cryfder a’r gwydnwch eithriadol y mae Diffoddwyr Tân yn eu dangos bob dydd.  Yn fwy na chystadleuaeth, mae Her Diffoddwyr Tân Cymru yn ddathliad o gymuned.  Mae'n gyfle i Ddiffoddwyr Tân gefnogi ei gilydd, tynnu sylw at eu proffesiynoldeb a chydnabod eu hymroddiad parhaus i gadw pobl yn ddiogel.

Mae youtube.com wedi'i rwystro oherwydd eich dewisiadau cwci cyfredol, gallwch newid y rheini trwy glicio ar y botwm cwci yn y gornel dde isaf ar unrhyw dudalen.






Mae'r her yn cynnwys wyth treial, wedi'u cynllunio er mwyn profi ffitrwydd a phenderfyniad hyd yn oed y Diffoddwr Tân mwyaf profiadol.  Rhaid i gyfranogwyr redeg 50 metr, cario pibell 50 metr, cario offer gwrthdrawiad ar y ffordd, llusgo dymi ffug a mwy.

Agorodd Prif Swyddog Tân GTACGC, Craig Flannery, y digwyddiad yn swyddogol, cyn ymuno â chyfranogwyr ar y cwrs mewn rasys unigol a rasys cyfnewid.





Roedd y digwyddiad yn cynnwys Pentref Diogelwch, a drefnwyd gan Dîm Diogelwch Cymunedol GTACGC ac yn cynnwys amrywiaeth o asiantaethau partner, gan gynnwys Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, y Groes Goch Brydeinig, Achub Mynydd, yr RNLI a mwy.









Supporting the event were the Fire Cadets from Seven Sisters Fire Station, who worked tirelessly to reset the course between each race throughout the day.  Despite the challenging weather conditions, the Cadets demonstrated great enthusiasm, dedication and teamwork.










Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad a Gwnewch Wahaniaeth Go Iawn

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio ar gyfer Diffoddwyr Tân Ar Alwad.  Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth ac eich cymuned.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.

Erthygl Flaenorol