Gyrru Mewn Glaw Trwm
Mae'n hynod o hawdd dod ar draws llifogydd yn annisgwyl, yn enwedig ar ffyrdd anrhestredig a gwledig. Os byddwch yn digwydd dod ar draws llifogydd annisgwyl a sydyn, yna peidiwch â gyrru ymlaen trwyddynt. Trowch yn eich ôl a chwiliwch am ffordd amgen.
Mae GTACGC yn annog preswylwyr ac ymwelwyr i fod yn ofalus wrth deithio mewn glaw trwm ac amodau tywydd gwael:
- Cymerwch Ofal Ychwanegol
Disgwylir i law trwm greu amodau gyrru peryglus, yn enwedig mewn ardaloedd isel ac arfordirol, felly cymerwch ofal ychwanegol
- Osgowch Ardaloedd Peryglus
Gall afonydd sydd wedi chwyddo ac ardaloedd arfordirol beri risgiau difrifol oherwydd lefelau dŵr sy'n codi'n gyflym a cherhyntau cryf. Osgowch yr ardaloedd hyn lle bynnag y bo modd.
- Peidiwch â Mynd i Mewn i Ddŵr Llifogydd
Boed ar droed neu mewn cerbyd, peidiwch byth â cheisio croesi dŵr llifogydd. Gall ymddangos yn fas, ond gall fod yn dwyllodrus o ddwfn ac yn symud yn gyflym, gyda’r gallu i ysgubo ceir i ffwrdd a pheryglu bywydau.
- Cadwch yn Wybodus ac yn Barod
Cadwch olwg ar ddiweddariadau tywydd lleol a chynlluniwch eich llwybrau teithio yn ofalus.
Mae rhagor o wybodaeth am yrru mewn glaw trwm ar gael yma.