Gyrru mewn Glaw Trwm



Mae glaw trwm yn ddigwyddiad cyffredin yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, yn enwedig yn ystod misoedd yr hydref a'r gaeaf, ac mae'n hawdd anghofio pa mor beryglus y gall gyrru mewn tywydd gwlyb fod. Er mwyn sicrhau eich bod yn cadw'n ddiogel, mae'n bwysig paratoi ar gyfer yr heriau sy'n dod i ganlyn tywydd gwlyb.



Mae yna duedd i byllau o ddŵr llonydd fod ar ein ffyrdd yn aml, a gallwch ddod ar eu traws heb fawr ddim rhybudd, os o gwbl. Gall hyn fod yn beryglus iawn ac achosi i geir ddŵr-lithro. Bydd gyrru dros arwyneb o'r fath hefyd yn lleihau'r gwelededd yn fawr i chi a defnyddwyr eraill ar y ffordd.

Ydy'ch car yn barod am dywydd garw?

Rydym wedi casglu ynghyd ychydig o ganllawiau syml y gallwch eu dilyn i'ch helpu i gadw'n ddiogel ac i fod yn barod am y tywydd.



Gwiriwch y goleuadau i sicrhau y byddwch yn weladwy i eraill. Cofiwch y gallai fod yn ofynnol i chi ddefnyddio goleuadau niwl os bydd y gwelededd yn dipyn llai na'r arfer.

Sicrhewch fod y sychwyr yn gweithredu a'u bod mewn cyflwr rhagorol – os ydynt yn dechrau gadael rhesi ar y sgrin wynt neu wedi dechrau mynd yn swnllyd, efallai ei bod yn bryd cael rhai newydd yn eu lle. Gwnewch yn siŵr eu bod yn cadw eich sgrin wynt yn glir.

Sicrhewch fod eich teiars mewn cyflwr da a bod dyfnder y gwadn yn gyfreithlon. Po ddyfnaf yw dyfnder y gwadn, gorau y bydd eich car yn gweithredu.

Sicrhewch fod gennych yr offer cywir, sy'n cynnwys ffôn wedi'i wefru, goleuadau a dillad tywydd gwlyb, rhag ofn y byddwch yn dod wyneb yn wyneb â phroblemau.



Pellteroedd stopio tywydd gwlyb

Mewn tywydd gwlyb, bydd y pellteroedd stopio o leiaf ddwywaith cymaint â'r hyn y mae ei angen i stopio ar ffyrdd sych, gweler ‘Pellteroedd stopio nodweddiadol' (Yn agor yn ffenest/tab newydd’). Y rheswm am hyn yw bod gan eich teiars lai o afael yn y ffordd. Mewn tywydd gwlyb


Dylech gadw ymhell y tu ôl i'r cerbyd o'ch blaen. Bydd hyn yn cynyddu'ch gallu i weld a chynllunio ymlaen

Os nad yw'r llyw yn ymateb, mae hynny'n golygu, mwy na thebyg, fod dŵr yn atal y teiars rhag gafael yn y ffordd. Tynnwch eich troed oddi ar y sbardun ac arafwch yn raddol.

Gall y glaw a'r dŵr sy'n cael eu taflu gan gerbydau eraill ei gwneud hi'n anodd gweld a chael eich gweld.

Byddwch yn ymwybodol o beryglon diesel sydd wedi gollwng oherwydd mae'n gwneud yr arwyneb yn llithrig iawn (gweler Atodiad 6: Cynnal a chadw cerbydau, diogelwch (yn agor yn ffenest/tab newydd))

Byddwch yn ofalus o gwmpas cerddwyr, seiclwyr, beicwyr modur a phobl ar gefn ceffylau.



Dŵr-lithro a dŵr ar arwyneb y ffordd

Mae dŵr-lithro yn digwydd pan fydd haen o ddŵr yn cael ei chreu rhwng y teiar a'r ffordd. Gall hyn ddigwydd pan fydd y crynhoad o ddŵr yn ormod i'r teiars ei ddisodli.

O ganlyniad, bydd eich teiar(s) yn colli gafael ar arwyneb y ffordd, gan achosi sefyllfa lle na fyddwch, o bosibl, yn gallu rheoli'r cerbyd. Ni fyddwch yn gallu llywio, brecio na chyflymu. Byddwch yn sylweddoli hyn fel arfer am fod y llyw bellach yn teimlo'n ysgafn, ond efallai y byddwch hefyd yn clywed newid yn sŵn yr injan. Gall hon fod yn sefyllfa frawychus iawn, a dylech wneud popeth o fewn eich gallu i liniaru'r risgiau y bydd hyn yn digwydd.

Mae yna dri achos cyffredinol sy'n peri i hyn ddigwydd:


Mae dŵr-lithro yn fwy tebygol o ddigwydd ar gyflymder uwch ac os byddwch yn cyflymu'n sydyn.

Mae gwadnau â dyfnderoedd is yn golygu y bydd y teiars yn llai abl i ddisodli'r dŵr.

Po uchaf yw lefel y dŵr ar yr arwyneb, mwyaf tebygol y byddwch o ddŵr-lithro.



Er mwyn osgoi'r risg o ddŵr-lithro, arafwch a pharatowch ar gyfer y risg o ardaloedd sydyn o ddŵr llonydd, y gallwch ddod ar eu traws heb rybudd. Sicrhewch fod eich teiars mewn cyflwr rhagorol. Gorau po fwyaf o wadn sydd ar y teiars.


Gyrru ar briffyrdd dan ddŵr

Gallwn ddod ar draws ffyrdd dan ddŵr pan fyddwn wedi cael cyfnod o dywydd gwael, ac mae'n bwysig ein bod yn tynnu sylw at y risgiau a'r peryglon drud yn aml sy'n deillio o yrru ar briffyrdd o'r fath.



Mae'n hynod o hawdd dod ar draws llifogydd yn annisgwyl, yn enwedig ar ein ffyrdd anrhestredig a gwledig, ac mae'n hanfodol sicrhau eich bod yn cynllunio'ch taith i geisio osgoi'r mannau yr effeithir arnynt. Edrychwch ar y sianeli newyddion lleol a gwefan y Swyddfa Dywydd i sicrhau eich bod yn mesur hyd a lled y sefyllfa ar y ffyrdd yn iawn ac yn cynllunio eich taith.

Nid yw cerbydau fel arfer yn ymdopi'n dda â gyrru trwy ddŵr dwfn, a gall y canlyniadau fod yn ddrud. Y rheswm am hyn yw bod y mewnlifoedd aer ar gerbydau fel arfer yn isel i lawr ar y cerbyd. Os caiff dŵr ei sugno i'r injan trwy'r mewnlifoedd hyn, bydd y cerbyd yn jibo, a gall achosi difrod difrifol a drud iawn. Gall hyn hefyd arwain at sefyllfa lle byddwch yn methu symud, gan olygu y bydd arnoch angen help gan arbenigwyr a'r gwasanaethau brys.

Y cyngor gorau y gallwn ei roi i chi yw cynllunio ymlaen llaw, ac os byddwch yn digwydd dod ar draws llifogydd annisgwyl a sydyn, yna peidiwch â gyrru ymlaen trwyddynt. Trowch yn eich ôl a chwiliwch am ffordd amgen. Gall dŵr fod yn ddyfnach nag y mae'n ymddangos.


Remember the Fatal 5

Fatal Five

 

  • Don’t drink / drug drive
  • Kill your speed
  • Don’t get careless
  • Belt up
  • Switch it off