Am 8.56yb ddydd Llun, Ionawr 6ed, cafodd criw Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsaf Dân Crug Hywel ei galw i ddigwyddiad yn Llanwenarth yn Y Fenni.
Gyda chymorth criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, ymatebodd y criw i un cerbyd modur preifat oedd yn sownd mewn llifddwr, gyda chleifion y tu mewn i’r cerbyd. Defnyddiodd y criwiau offer cerdded trwy ddŵr i achub y cleifion o’r cerbyd. Gadawodd y criwiau am 9.57yb.


Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad a Gwnewch Wahaniaeth Go Iawn
Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth ac eich cymuned.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alwad ym mhob un o’n Gorsafoedd Tân Ar Alwad.
Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.
Y Newyddion Diweddaraf
-
Noson Recriwtio yng Ngorsaf Dân Aberteifi
08.07.2025
-
Digwyddiad: Tân Ysgubor yn Llandeilo
04.07.2025
-
Cylchgrawn Calon Tân: Haf 2025
04.07.2025