30.04.2024

Digwyddiad: Criwiau Pontardawe a Rhydaman yn Achub Beiciwr Modur

Ddydd Gwener, Ebrill 19eg, gwnaeth Tîm Achub Rhaffau Lefel 3 o Bontardawe, ynghyd â’r Tîm Lefel 2 o Rydaman, gweithredu achub technegol ar gyrion Llanwrtyd.

Gan Lily Evans



Ddydd Gwener, Ebrill 19eg, gwnaeth Tîm Achub Rhaffau Lefel 3 o Bontardawe, ynghyd â’r Tîm Lefel 2 o Rydaman, gweithredu achub technegol ar gyrion Llanwrtyd.

Ymatebodd y timau ac aelodau'r criw ar ôl i feiciwr modur adael y ffordd a syrthio tua 10m i lawr arglawdd serth.  Gweithiodd y timau gyda'i gilydd i achub y claf gan ddefnyddio system achub cludwely fertigol a wnaeth galluogi canlyniad diogel ac effeithiol.

Allech chi fod yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad?

Mae gan Bontardawe a Rhydaman system criwio yn ystod dydd ac ar alwad, sy’n golygu bod eu diffoddwyr tân yn cael eu hysbysu am alwad frys trwy ddyfais alw bersonol, y maen nhw’n ei chario gyda nhw pan fyddant ar ddyletswydd.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alwad ym mhob un o’n Gorsafoedd Tân Ar Alwad.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.

Dysgwch fwy am sut i fod yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad yma.




Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf