Allech chi fod yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad?
Mae Gorsaf Dân Aberhonddu yn Orsaf Dân Ar Alwad, sy’n golygu bod ei Diffoddwyr Tân yn cael eu hysbysu am alwad frys trwy ddyfais alw bersonol, y maen nhw’n ei chario gyda nhw pan fyddant ar ddyletswydd.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alwad ym mhob un o’n Gorsafoedd Tân Ar Alwad.
Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.
Dysgwch fwy am sut i fod yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad yma.