Am 3.54yp ddydd Iau, Ionawr 2ail, ymatebodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Rhaeadr Gwy, Llandrindod, Llanidloes, Y Drenewydd ac Aberystwyth i ddigwyddiad ger Argae Claerwen yng Nghwm Elan, Rhaeadr Gwy.
Ymatebodd criwiau i wrthrdrawiad ffordd yn cynnwys un cerbyd modur a phedwar claf. Roedd y cerbyd wedi troi drosodd ac wedi dod i orffwys ar ei ochr ger ymyl y gronfa ddŵr. Cludwyd un o’r cleifion i’r Ysbyty gan Hofrennydd Gwylwyr y Glannau.
Roedd y digwyddiad hwn yn arbennig o heriol oherwydd diffyg golau, tirwedd anodd, agosrwydd at ymyl y dŵr, signal radio a ffôn gwael ac amodau rhewllyd. Roedd angen ymateb aml-asiantaeth i'r digwyddiad hwn, gyda phersonél Heddlu Dyfed-Powys, Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, Achub Mynydd Aberhonddu a staff Gwylwyr y Glannau hefyd yn bresennol.
Gadawodd criwiau’r Gwasanaeth Tân ac Achub am 8.52yh. Cynhaliwyd ôl-drafodaeth aml-asiantaeth yng Ngorsaf Dân Rhaeadr Gwy, a roddodd gyfle i bawb adeiladu ar y perthnasoedd cadarnhaol a oedd yn hanfodol i’r achubiadau llwyddiannus a ddigwyddodd.