Am 8.04yp ddydd Sul, Ionawr 5ed, ymatebodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth (GTACGC) a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Llanwrtyd, Llanymddyfri a Llanfair ym Muallt i lifogydd yn ardal Teras Belle Vue yn Llanwrtyd.
Ymatebodd criwiau i’r ardal ar ôl i ddŵr fynd mewn i sawl eiddo, gan gynnwys islawr eiddo masnachol sy’n gweithredu fel gwesty. Achoswyd y llifogydd gan geuffos a oedd wedi dymchwel a defnyddiodd y criwiau nifer o bympiau a phibellau i dynnu a dargyfeirio’r dŵr o’r eiddo. Roedd personél yr Awdurdod Lleol hefyd yn bresennol, a gyflenwodd fagiau tywod i helpu i ddargyfeirio’r dŵr oddi wrth yr eiddo. Llwyddodd y criwiau i dynnu dŵr o bob eiddo a throsglwyddwyd y digwyddiad i’r Awdurdod Lleol. Gadawodd y criwiau am 12.26yb ddydd Llun, Ionawr 6ed.
Cyngor Diogelwch Llifogydd
O fewn ardal gwasanaeth GTACGC, mae cyfanswm o bron i 31,000 o eiddo mewn perygl o lifogydd.
Am gyngor ar gadw’n ddiogel yn ystod llifogydd, yn ogystal â gwybodaeth am sut i baratoi eich eiddo a’r asiantaethau a all helpu, ewch i yma.

