Cyngor ar Lifogydd



Yn ardal Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, mae cyfanswm o bron i 31,000 o adeiladau mewn perygl. O’r rhain, mae bron i 24,000 mewn perygl y bydd afon yn gorlifo ac mae dros 7,000 mewn perygl o lifogydd llanw.

Yn ardal Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, mae cyfanswm o bron i 31,000 o adeiladau mewn perygl. O’r rhain, mae bron i 24,000 mewn perygl y bydd afon yn gorlifo ac mae dros 7,000 mewn perygl o lifogydd llanw.

Trwy ymgymryd â rhai paratoadau cychwynnol, medrwch leihau yn sylweddol y difrod a’r cynnwrf a achosir gan lifogydd - yn enwedig os ydych yn byw mewn ardal sydd mewn perygl mawr o lifogydd, os ydych wedi dioddef llifogydd o’r blaen neu os ydych yn oedrannus, yn fregus eich iechyd neu’n anabl.

Bydd cynghorau, y gwasanaethau brys ac Adnoddau Naturiol Cymru yn helpu ble y gallant, ond chi sy’n bennaf gyfrifol am ddiogelu eich eiddo chi’ch hunan.

Os oes bywyd mewn perygl, galwch 999.

Ar gyfer unrhyw amgylchiad arall o lifogydd, mae nifer o gamau y gallwch eu cymryd i ddiogelu eich cartref.

Pan fod llifogydd yn eang, nid yw’n bosib ymateb i bob galwad am gymorth ar unwaith, a’n blaenoriaeth ni fydd achub bywydau​.



Cyngor diogelwch



  • Gofalwch bod eich yswiriant tŷ yn ddigonol ac yn gyfredol
  • Meddyliwch am eich car. I ble allech chi ei symud os ceir rhybudd llifogydd?
  • Cadwch eich rhestr o rifau defnyddiol wrth law.
  • Paratowch i ddiffodd y cyflenwadau nwy, trydan a dŵr.  
  • Dewch ag anifeiliaid anwes tu mewn a rhowch flwch baw oddi tanynt.
  • Blociwch y drysau (gyda byrddau llifogydd, os oes rhai wrth law) ac awyrellau gyda chynfasau plastig a bagiau tywod.
  • Cadwch i fyny gyda’r newyddion diweddaraf trwy wrando ar eich gorsaf radio leol, neu deialwch rif y Llinell Rhybuddion Llifogydd ar 0845 988 1188.
  • Gofalwch fod eich cymdogion yn ymwybodol o unrhyw rybuddion llifogydd a roddwyd, yn enwedig os ydynt yn oedrannus, yn sâl neu’n anabl.
  • Storiwch beth dŵr yfed mewn poteli, rhag ofn bydd y cyflenwad cyhoeddus yn cael ei lygru gan lifddwr neu garthion.
  • Gofalwch bod dillad sbâr, dillad gwrth-ddŵr, esgidiau glaw, tortshis, batris, radio a bwyd yn cael eu cadw mewn lle sy’n hawdd ei gyrraedd. Mae’n bosib bydd y cyflenwad trydan a nwy wedi cael eu hynysu. 
  • Symudwch eitemau gwerthfawr a bwyd lan llofft.  
  • Llenwch fagiau tywod i tua dau draean yn llawn ac yna rhowch nhw yn eu lle, gan gofio i flocio brics aer ac agoriadau lefel isel eraill.
  • Lluniwch restr o rifau ffôn defnyddiol – yn cynnwys eich meddyg, milfeddyg ac yswiriwr eich cartref – a chadwch y rhestr mewn lle diogel.  
  • Rhowch sylw i rybuddion llifogydd a roddir gan Adnoddau Naturiol Cymru​.
  • Sgwrsiwch am lifogydd posib gyda’ch teulu neu’r bobl sy’n byw gyda chi.  Ystyriwch ysgrifennu cynllun llifogydd, a chadwch y nodiadau yma gyda’ch pecyn llifogydd.
  • Paratowch becyn llifogydd, yn cynnwys tortsh, blancedi, dillad gwrth-ddŵr, esgidiau glaw, radio batri cludadwy, pecyn cymorth cyntaf, menig rwber a dogfennau personol allweddol.  Cadwch y pecyn lan llofft, os yn bosib.
  • Gofalwch eich bod yn gwybod sut i ddiffodd eich cyflenwad nwy, trydan a dŵr, os oes angen 
  • Mae’n bosib byddwch chi eisiau ystyried prynu estyll pwrpasol, sy’n slotio i mewn i fframiau drysau a brics aer i’w selio nhw’n dynn.
  • Cadwch stoc fach o fagiau tywod gwag a thywod, sydd ar gael oddi wrth gyflenwyr adeiladwyr a siopau nwyddau metel, fel y gellir eu defnyddio i ddiogelu bylchau drysau ac awyrellau.
  • Meddyliwch am foddion. Os bydd llifogydd, bydd dal i fod yn rhaid i chi ei gymryd.

  • Symudwch eich holl eiddo gwerthfawr cludadwy, megis ffotograffau a phethau gwerthfawr lan llofft mewn bagiau plastig neu gosodwch nhw ar ben dodrefn trwm. Os ydych yn fethedig neu’n oedrannus, gofynnwch i’ch ffrindiau neu’ch cymdogion am gymorth
  • Casglwch ddogfennau pwysig, megis polisïau yswiriant, papurau eich cyfrif banc, tystysgrifau geni a phriodas, pasbortau, llyfr rhent, tystysgrifau oddi wrth y milfeddyg a’ch trwydded yrru, a chadwch nhw’n ddiogel ac wrth law, rhag ofn bydd yn rhaid i chi adael eich cartref.
  • Symudwch eich bwyd lan llofft.
  • Paciwch ddewis o ddillad cynnes a sych a hanfodion eraill, megis eich moddion a’ch sbectol.
  • Symudwch eitemau allanol, megis biniau sbwriel a dodrefn yr ardd i leoliadau mwy diogel.
  • Symudwch eich car i dir uwch, os nad ydych yn bwriadu gadael eich cartref.​
  • Os ydych chi wedi’i gadael hi’n rhy hwyr, gellir defnyddio casys gobennydd wedi eu llenwi â phridd fel bagiau tywod dros dro.
  • Os yw llifogydd yn debygol a’ch bod yn defnyddio bagiau tywod neu ddulliau eraill i ddiogelu eich eiddo, cofiwch i ddiogelu brics aer hefyd.
  • Gosodwch blygiau yn y sinciau a’r basnau a gosodwch wrthrych trwm ar eu pennau, i atal sinciau rhag gorlenwi.
  • Caewch gloriau toiledau a gosodwch wrthrychau trwm ar eu pennau nhw hefyd.
  • Codwch eitemau trydanol trwm, megis oergelloedd, rhewgelloedd, peiriannau golchi dillad ar ben brics.
  • Rholiwch garpedi a rygiau i fyny, os yn bosib, a’u symud nhw lan llofft. 
  • Dylid tynnu’r llenni i lawr hefyd, os oes angen. Dylid symud dodrefn sy’n rhy drwm i’w cario lan llofft i ffwrdd oddi wrth y waliau, gan y bydd hyn yn cyflymu’r broses o sychu, os daw dŵr i mewn i’r tŷ.
  • Datgysylltwch beiriannau golchi dillad a pheiriannau golchi llestri, i atal ôl-lifiad.
  • Diffoddwch y nwy, y trydan a’r dŵr yn y prif gyflenwad
  • Arhoswch yn eich cartref, os fedrwch chi – symudwch lan llofft, oni bai ei bod hi’n amlwg nad yw’n ddiogel i wneud hynny. 

  • ​Cysylltwch â’ch yswiriwr cyn gynted ag sy’n bosib. Peidiwch â thaflu eitemau a ddifrodwyd nes bod eich yswirwyr wedi eu harchwilio.
  • Mynnwch fod eich cyflenwr neu dechnegydd cymwysedig yn gwirio eich cyflenwad trydan a nwy, cyn eu troi ymlaen. 
  • Taflwch unrhyw fwyd sydd wedi bod mewn cysylltiad â’r llifddwr.
  • Cysylltwch â’ch cwmni dŵr os yw’r dŵr tap wedi afliwio neu ei fod yn blasu’n rhyfedd.
  • Awyrwch eich cartref gymaint ag sy’n bosib - Pa leiaf y lleithder, y lleiaf bydd y difrod.
  • Mynnwch gyngor ar y gwaith atgyweirio oddi wrth gwmnïau ag enw da yn unig, gyda chymeradwyaeth eich cwmni yswiriant.  

Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru

​ Mewn achosion o lifogydd, mae gennym ddyletswydd ble bod perygl i fywyd neu risg o dân. Yn aml, does dim llawer y medrwn ei wneud unwaith y byddwn wedi cwblhau’r gwaith achub. Pan fod adeilad dan ddŵr a bod y llifddwr yn dal i fod yn uchel tu allan, bydd y dŵr yn dod yn ôl i mewn yn syth wedi iddo gael ei bwmpio allan.

​Awdurdodau Priffyrdd

Mewn achosion o lifogydd, maent yn gyfrifol am gadw’r ffyrdd a draeniad y ffyrdd yn glir. Fodd bynnag, gall rhai ffyrdd fod yn gyfrifoldeb i’r Asiantaeth Priffyrdd neu berchenogion preifat.

​Gwasanaethau Cymdeithasol

Maent yn gyfrifol am ofalu am yr henoed, y methedig a phobl agored i niwed. 

​​Cynghorau Dosbarth ac Unedol

Maent yn helpu i ailgartrefu pobl agored i niwed a wnaed yn ddigartref, ble nad oes ateb arall; casglu sbwriel; a chyngor i’r cyhoedd ar yfed dŵr a diogelwch bwyd.

Cwmnïau Dŵr

Maent yn gyfrifol am waredu a thrin dŵr gwastraff (carthion). Mae glaw anghyffredin o drwm, ar ffurf stormydd lleoledig difrifol gan amlaf, yn medru gorlethu systemau draenio ac achosi llifogydd, yn enwedig mewn ardaloedd isel. Yn yr amgylchiadau yma, gall carthion heb eu trin sarnu allan i’r strydoedd ac i erddi. Bydd y cwmnïau dŵr yn cynorthwyo ble bod hynny’n bosib, i gyfyngu’r dŵr sy’n dianc o’r system, a byddant yn tacluso’r ardaloedd ble mae carthion wedi sarnu, unwaith bydd y llifogydd wedi cilio.