05.11.2025

Digwyddiad Menywod yn y Gwasanaeth Tân Cymru 2025

Ym mis Hydref, aeth 25 aelod o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru i ddigwyddiad Menywod yn y Gwasanaeth Tân Cymru yng Nghaerdydd.

Gan Emma Dyer


Ym mis Hydref, aeth 25 aelod o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru i ddigwyddiad Menywod yn y Gwasanaeth Tân Cymru yng Nghaerdydd.

Cymerodd personél ran mewn ystod eang o weithdai, gan gynnwys Ioga, Ymwybyddiaeth Menopos, gweithgareddau Achub Dŵr, a ChAT, ymhlith llawer o rai eraill.

Roedd y digwyddiad yn gyfle gwych i ddod ynghyd â chydweithwyr o wasanaethau tân ac achub eraill, meithrin cysylltiadau ystyrlon, rhannu profiadau, a dysgu sgiliau newydd.

Dywedodd y Diffoddwr Tân Hannah Lodder-Rodda:

“Cefais i gymaint o hwyl, dysgais i lawer, a chefais deimlad go iawn o wahanol feysydd y Gwasanaeth Tân ac Achub. Roedd hefyd yn gyfle gwych i gwrdd a sgwrsio â phobl o wasanaethau Gogledd a De Cymru, yn ogystal â llawer o rai eraill nad ydw i fel arfer yn cael cyfle i weithio ochr yn ochr â nhw. Roedd yn hyfryd gweld pawb y tu allan i'n rolau arferol a chael y cyfle i adeiladu cysylltiadau wrth fynd ati i wneud gweithgareddau ymarferol.”



Penwythnos gwirioneddol ysbrydoledig – diolch i Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru am gynnal a chefnogi digwyddiad mor gofiadwy.



Erthygl Flaenorol