28.07.2025

Digwyddiad Recriwtio Gorsaf Dân y Tymbl

Ddydd Sadwrn, 9 Awst, bydd Gorsaf Dân y Tymbl yn cynnal digwyddiad recriwtio rhwng 10am a 2pm.

Gan Emma Dyer



Ddydd Sadwrn, 9 Awst, bydd Gorsaf Dân y Tymbl yn cynnal digwyddiad recriwtio rhwng 10am a 2pm.

Dewch draw i:

  • Gwrdd â'ch diffoddwyr tân lleol
  • Darganfod beth sydd ei angen i fod yn ddiffoddwr tân Ar Alwad
  • Gofyn cwestiynau, clywed straeon go iawn, a chael gwybodaeth ymarferol am y rôl

Os ydych chi erioed wedi ystyried dod yn ddiffoddwr tân Ar Alwad, dyma'ch cyfle i ddysgu’n uniongyrchol gan y bobl sy'n gwneud hynny bob dydd.

Darganfyddwch am:

  • Drefniadau gweithio hyblyg
  • Yr hyfforddiant a'r datblygu y byddwch chi'n ei dderbyn
  • Sut y gallwch chi wasanaethu eich cymuned a meithrin sgiliau newydd ar yr un pryd

Trwy ymuno, nid yn unig y byddwch chi’n cefnogi eich cymuned, byddwch chi'n dod yn rhan o deulu tân ac achub ymroddedig a chroesawgar.



System Bandio Argaeledd Newydd

Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) - mae 75% o'n Gorsafoedd Tân yn cael eu criwio gan Ddiffoddwyr Tân Ar Alwad yn unig. 

Yn gynharach eleni, cyflwynodd GTACGC system bandio cyflogau ac argaeledd newydd, sy’n cydnabod yr angen i gydbwyso gwaith a bywyd personol, gan gynnig mwy o hyblygrwydd i’r rhai sy’n awyddus i ddod yn Ddiffoddwyr Tân Ar Alwad.

Mae'r System Criwio Ar Alwad newydd yn cynnig:

  • Hyblygrwydd o ran ymrwymiad: Gall Diffoddwyr Tân Ar Alwad wasanaethu eu cymunedau heb roi’r gorau i weithio swyddi eraill, a chan gynnal cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith. 
  • Tâl: Bydd Diffoddwr Tân Ar Alwad yn ennill cyflog am wneud ymarferiadau, am hyfforddi ac am ymateb i alwadau, a hynny ar ben eu tâl cadw blynyddol. 
  • Datblygiad personol: Byddant yn ennill sgiliau gwerthfawr i ymateb i argyfyngau ynghyd â mynediad at hyfforddiant ac ardystiadau proffesiynol.
  • Dilyniant gyrfa: Gallai dod yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad arwain at yrfa fel Diffoddwr Tân Amser Cyflawn neu waith yn y gwasanaethau brys eraill 

Gwnewch wahaniaeth go iawn a dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad.

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf