Ymgyrch ‘Dwi’n Nabod Rhywun’
Yn gynharach eleni, lansiwyd Ymgyrch #DwinNabodRhywun gan Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, sy’n annog teulu a ffrindiau i gadw golwg ar eu cymdogion a’u perthnasau, yn enwedig y rheini a allai fod yn agored i niwed, yn oedrannus neu’n byw ar eu pennau eu hunain.
Bydd yr ymgyrch yn canolbwyntio ar gymunedau gwledig ac yn tynnu sylw at bwysigrwydd cael ymweliad Diogelwch yn y Cartref. Mae'r ymweliadau hyn yn caniatáu i staff Diogelwch Cymunedol wirio ffactorau pwysig yn y cartref, megis cael larymau mwg sy’n gweithio, diogelwch trydanol, llwybrau dianc clir a mwy.
Am fwy o wybodaeth ac i drefnu ymweliad Diogelwch yn y Cartref AM DDIM, ewch yma neu ffoniwch 0800 169 1234 os gwelwch yn dda.