27.01.2026

Digwyddiad: Tân Eiddo ym Mronllys

Ddydd Sadwrn, Ionawr 24ain, galwyd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Talgarth, Aberhonddu a Chrucywel i dân mewn eiddo ym Mronllys yn Aberhonddu.

Gan Steffan John



Am 6.22yh, ddydd Sadwrn, Ionawr 24ain, galwyd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Talgarth, Aberhonddu a Chrucywel i ddigwyddiad ym Mronllys yn Aberhonddu.

Ymatebodd y criwiau i dân mewn tŷ pâr domestig.  Defnyddiodd y criwiau bedwar set o offer anadlu, dwy chwistrell olwyn piben, camerâu delweddu thermol, un ysgol estynedig triphlyg, un wyntyll pwysedd positif ac offer bach i ddiffodd y tân.  Roedd y tân wedi lledu i eiddo cyfagos.  Ar ôl diffodd y tân, aeth Diffoddwyr Tân i mewn i lofft yr eiddo i wirio a diffodd unrhyw fannau poeth a oedd yn weddill.

Dechreuodd y tân yng nghegin yr eiddo ac fe'i hachoswyd yn ddamweiniol gan beiriant sychu dillad.



Diogelwch Nwyddau Gwynion 

Yn dilyn y tân hwn, mae GTACGC yn atgoffa pobl am ddiogelwch sychwyr dillad a nwyddion gwynion:

  • Peidiwch BYTH â gadael peiriannau heb unrhyw un yn eu goruchwylio - peidiwch â throi'r sychwr dillad ymlaen cyn i chi adael y tŷ neu fynd i'r gwely. Mae peiriannau sychu dillad yn cynnwys moduron pwerus gyda rhannau sy'n symud yn gyflym a all fynd yn boeth iawn.
  • Peidiwch â gorlwytho'ch sychwr dillad na’i ddefnyddio i sychu eitemau sydd wedi cael eu defnyddio i amsugno hylifau fflamadwy gan gynnwys olew coginio.
  • Peidiwch ag anwybyddu’r arwyddion rhybudd – os gallwch arogli llosgi neu os bydd dillad yn teimlo’n boethach ar ddiwedd y cylch, gofynnwch i weithiwr proffesiynol gael golwg ar y peiriant.

Mae mwy o wybodaeth am ddiogelwch nwyddau gwynion ar gael ar yma.




Erthygl Flaenorol