Defnyddir y term nwyddau gwynion i gwmpasu'r eitemau trydanol mawr sydd gennym ni i gyd yn ein cartrefi ac mae'n cynnwys offer amrywiol o oergelloedd a pheiriannau golchi dillad i sugnwyr llwch a thecellau. Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn argymell bod pobl yn cofrestru eu hoffer er mwyn iddynt gael gwybod cyn gynted â phosibl os bydd pryderon diogelwch neu alw cynnyrch yn ôl yn berthnasol i’r offer yn eu cartref.

Er mwyn ei gwneud yn haws i bobl gael gwybod a yw offer wedi cael eu galw'n ôl, mae Cymdeithas y Gwneuthurwyr Offer Domestig (AMEDA) wedi sefydlu gwefan am ddim lle gallwch gofrestru'r holl offer a ddefnyddiwch gartref. Os caiff yr offer hyn eu galw yn ôl, bydd y gwneuthurwr yn gallu cysylltu â chi ar unwaith i drefnu eich bod yn cael offer yn eu lle neu fod gwaith yn cael ei wneud ar eich offer i'w gwneud yn ddiogel.

I cofrestu eich nwyddau gwynion ewch i safle we uniaith Saesneg Register my Appliance (yn agor yn ffenest/tab newydd)