15.04.2025

Digwyddiad: Tân Gwair ar Heol Llannon

Ddydd Sadwrn, Ebrill 12fed, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Llanelli, Pontarddulais, Y Tymbl a Phont-iets eu galw i ddigwyddiad ger Bryn Rhos, rhwng Y Tymbl a Llannon.

Gan Steffan John



Am 10.51yb ddydd Sadwrn, Ebrill 12fed, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Llanelli, Pontarddulais, Y Tymbl a Phont-iets eu galw i ddigwyddiad ger Bryn Rhos, rhwng Y Tymbl a Llannon.

Ymatebodd y criwiau i dân gwair yn effeithio ar tua 30 hectar o dir.  Defnyddiodd y criwiau gurwyr, chwistrelli olwyn pibell, chwythwyr, cnap sachau, monitorau daear osgiliadol a dronau i fonitro a diffodd y tân.

Cafodd gweithrediadau diffodd tân eu blaenoriaethu i ddiogelu eiddo ar hyd Heol Llannon.  Dinistriwyd yr ardal o dir yn llwyr gan y tân.  Mae’r lluniau isod yn amlygu maint y difrod a pha mor agos oedd y tân wedi cyrraedd eiddo.

Caeodd Heddlu Dyfed-Powys Heol Llannon tra bod y digwyddiad ymlaen oherwydd mwg yn chwythu ar draws y ffordd ac yn effeithio ar welededd.

Gadawodd y criwiau am 5.22yp.  Credir bod y tân wedi ei gynnau’n fwriadol.



Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru

Mae GTACGC yn aelod o Fwrdd Tanau Gwyllt Cymru, sy’n ddull aml-asiantaethol o wella ein dealltwriaeth a’n rheolaeth o’r perygl y mae tanau gwyllt yn ei beri i amgylchedd a chymunedau Cymru.

Mae tanau gwyllt yn gyfrifol am ddinistrio miloedd o hectarau o gefn gwlad, mannau agored a chynefinoedd bywyd gwyllt bob blwyddyn.  Bydd partneriaid y Bwrdd Tanau Gwyllt yn ymrwymo i weithio gyda'n cymunedau er mwyn creu tirwedd sy’n iachach ac yn fwy gwydn, a hynny trwy wella bioamrywiaeth ar gyfer ein dyfodol.  Darllenwch fwy yma.




Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf