17.04.2024

Digwyddiad: Tân Mawr yn Ystad Ddiwydiannol Waterston

Am 11.09am ddydd Llun, Ebrill 15, galwyd criwiau Aberdaugleddau, Doc Penfro, Arberth, Abergwaun, Caerfyrddin, Dinbych y Pysgod a Hwlffordd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) i ddigwyddiad mewn safle masnachol yn Ystad Ddiwydiannol Waterston, Aberdaugleddau.

Gan Lily Evans



Am 11.09am ddydd Llun, Ebrill 15, galwyd criwiau Aberdaugleddau, Doc Penfro, Arberth, Abergwaun, Caerfyrddin, Dinbych y Pysgod a Hwlffordd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) i ddigwyddiad mewn safle masnachol yn Ystad Ddiwydiannol Waterston, Aberdaugleddau.

Ymatebodd criwiau i tua 150 o gerbydau ar dân, a phan oedd y digwyddiad ar ei anterth roedd 12 peiriant tân yn bresennol. Defnyddiodd y criwiau chwe set o offer anadlu, naw pibell ddŵr jet, dau fonitor daear a tua 1,000 litr o ewyn i ddiffodd y tân.

Cafodd eiddo oedd yn agos i’r tân eu gwacáu a chaewyd ffyrdd cyfagos. Roedd angen ymateb aml-asiantaeth ar y digwyddiad, gyda Heddlu Dyfed Powys, y Gwasanaeth Ambiwlans a’r Awdurdod Lleol hefyd yn bresennol.

Dechreuodd criwiau adael y safle am 2.11pm.

Yn dilyn ymchwiliadau gan Dîm Diogelwch Tân Busnesau GTACGC, mae achos y tân wedi cael ei gofnodi fel damwain.




Lluniau gan Martin Cavaney.




Allech chi fod yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad?

Mae Aberdaugleddau*, Doc Penfro*, Arberth, Abergwaun, Dinbych-y-pysgod a Hwlffordd* yn Orsafoedd Tân Ar Alwad, sy’n golygu bod eu diffoddwyr tân yn cael eu hysbysu am alwad frys trwy ddyfais alw bersonol, y maen nhw’n ei chario gyda nhw pan fyddant ar ddyletswydd.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alwad ym mhob un o’n Gorsafoedd Tân Ar Alwad.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.

Dysgwch fwy am sut i fod yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad yma.

* Mae gan y Gorsafoedd Tân hyn system criwio yn ystod y dydd ac ar alwad.

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf