05.09.2025

Digwyddiad: Tân Mewn Eiddo ar Heol Derwen yn Nhymbl

Ddydd Mercher, Medi 3ydd, ymatebodd Diffoddwyr Tân o Orsaf Dân y Tymbl i ddigwyddiad ar Heol Derwen yn Nhymbl.

Gan Steffan John



Am 5.16yp ddydd Mercher, Medi 3ydd, galwyd criw Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsaf Dân y Tymbl ei galw i ddigwyddiad ar Heol Derwen yn Nhymbl.

Ymatebodd y criw i dân o fewn eiddo domestig.  Cyfyngwyd y tân i fwrdd cegin, cadeiriau a llawr yr eiddo ac roedd wedi’i diffodd cyn i’r criw gyrraedd.  Bu aelodau’r criw yna’n oeri’r malurion ac ynysu’r cyflenwad pŵer i beiriant sychu dillad yr eiddo.  Credir bod y tân wedi’i achosi gan ddillad o’r peiriant sychu dillad a oedd wedi’i gadael ar y bwrdd.

Ar ôl i'r tân gael ei ddiffodd yn llwyr, cynhaliodd y criw Archwiliad Diogelwch Tân Cartref yn yr eiddo.  Gadawodd y criw am 6.13pm.




Diogelwch Nwyddau Gwynion 

Yn dilyn y tân hwn, mae GTACGC yn atgoffa pobl am ddiogelwch sychwyr dillad a nwyddion gwynion:

  • Peidiwch BYTH â gadael peiriannau heb unrhyw un yn eu goruchwylio - peidiwch â throi'r sychwr dillad ymlaen cyn i chi adael y tŷ neu fynd i'r gwely. Mae peiriannau sychu dillad yn cynnwys moduron pwerus gyda rhannau sy'n symud yn gyflym a all fynd yn boeth iawn.
  • Peidiwch â gorlwytho'ch sychwr dillad na’i ddefnyddio i sychu eitemau sydd wedi cael eu defnyddio i amsugno hylifau fflamadwy gan gynnwys olew coginio.
  • Peidiwch ag anwybyddu’r arwyddion rhybudd – os gallwch arogli llosgi neu os bydd dillad yn teimlo’n boethach ar ddiwedd y cylch, gofynnwch i weithiwr proffesiynol gael golwg ar y peiriant.

Mae mwy o wybodaeth am ddiogelwch nwyddau gwynion ar gael ar yma.



Ymweliad Diogel ac Iach

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewn Cymru yn cynnig y cyfle i gael Ymweliad Diogel ac Iach am ddim yn eich cartref.

Mae ymweliad Diogel ac Iach yn cynnwys popeth sy’n rhan o'r Wiriad Diogelwch Tân yn y Cartref ond hefyd yn cynnwys negeseuon diogelwch eraill hefyd a all fod yn berthnasol i'r bobl sy'n byw yn yr eiddo.  Mae Ymweliad Diogel ac Iach yn cynnwys gosod a gwirio larymau mwg, nodi peryglon tân posibl a chyngor arbenigol ar gynlluniau dianc ac atal tân.

Diogelwch eich cartref a'ch anwyliaid ac archebwch Ymweliad Diogel ac Iach am ddim.  Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf