02.12.2024

Digwyddiad: Tân mewn Eiddo yn Y Gelli Gandryll

Ddydd Iau, Tachwedd 28ain, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Y Gelli Gandryll, Talgarth, Aberhonddu, Llanfair ym Muallt a Llandrindod eu galw i ddigwyddiad ar Stryd y Bont yn Y Gelli Gandryll.

Gan Steffan John



Am 6.27yp ddydd Iau, Tachwedd 28ain, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Y Gelli Gandryll, Talgarth, Aberhonddu, Llanfair ym Muallt a Llandrindod eu galw i ddigwyddiad ar Stryd y Bont yn Y Gelli Gandryll.

Ymatebodd criwiau i dân o fewn eiddo deulawr yn mesur tua 15 metr wrth 10 metr.  Roedd holl ofod to’r eiddo ar dân, diffoddodd criwiau’r tân gan ddefnyddio pedair set cyfarpar anadlu, dwy brif bibell, dau gamera delweddu thermol, pedair prif gangen, un pwmp cludadwy ysgafn, goleuadau, un ysgol estyniad triphlyg ac offer bach i ddiffodd y tân.  Gadawodd y criwiau am 10.35yp.

Diolch byth, nid oedd unrhyw un y tu mewn i’r eiddo adeg y tân.  Am fwy o wybodaeth am ddiogelwch tân yn y cartref, ewch yma.

 






Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf