Ewch i'n e-lyfrgell ar-lein i weld ein Llenyddiaeth Diogelwch Cymunedol.
Mae cadw eich larymau mwg mewn cyflwr da yn eich diogelu chi a’ch teulu rhag tân. Fodd bynnag, mae’n llawer rhy rhwydd i anghofio’r prawf hanfodol hwn.
Safelincs eich helpu trwy eich atgoffa ar e-bost, ac ar amledd o’ch dewis chi, i brofi eich larwm mwg yn rheolaidd.
Cefnogir darparu larymau mwg ac eitemau diogelwch cartref eraill gan Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru gan gyllid gan Lywodraeth Cymru (yn agor yn ffenest/tab newydd).
Beth ddylid ei wneud mewn argyfwng?
- Os yw eich larwm mwg yn canu tra eich bod yn cysgu, peidiwch â mynd i weld a oes tân. Gweiddwch er mwyn dihuno pawb, ceisiwch gael pawb at ei gilydd, dilynwch eich cynllun ac ewch allan.
- Teimlwch y drysau gyda chefn eich llaw – os ydynt yn boeth, peidiwch â’u hagor – mae’r tân ar yr ochr arall.
- Os oes llawer o fwg, ymlusgwch gyda’ch trwyn yn agos i’r llawr, ble mae’r aer yn fwy glân.
-
Os oes yn rhaid i chi dorri ffenest, gorchuddiwch ymylon miniog y gwydr gyda thywelion neu ddillad gwely trwchus;
-
Peidiwch â neidio allan o’r ffenest – gostyngwch eich hun i hyd braich ac yna disgynnwch i’r ddaear;
-
Os oes plant neu bobl oedrannus neu anabl gyda chi, cynlluniwch ym mha drefn y byddwch yn dianc, fel y medrwch eu helpu nhw i lawr.
- Galwch 999 a gofynnwch am y Gwasanaeth Tân ac Achub o ffôn symudol, ffôn cymydog neu flwch ffôn. Rhowch gyfeiriad y tân.
- Peidiwch ag aros na dychwelyd i fofyn unrhyw beth
- Ceisiwch gael pawb i mewn i un ystafell a chaewch y drws. Mae mwg a mygdarth yn medru lladd yn gyflym, felly gosodwch ddillad gwely neu dywelion ar hyd gwaelod y drws er mwyn selio’r bwlch.
- Agorwch y ffenest ac arhoswch gerllaw, er mwyn cael awyr iach ac i adael i’r diffoddwyr tân i’ch gweld chi.
- Os oes rhaid i chi dorri ffenestr, gorchuddiwch y gwydr wedi'i chwalu â thywelion neu ddillad gwely trwchus.
- Peidiwch â neidio allan o ffenestr - gostwng eich hun i lawr hyd braich a gollwng i'r llawr.
- Os oes gennych unrhyw blant neu bobl oedrannus neu anabl gyda chi, cynlluniwch y gorchymyn y byddwch yn dianc ynddo fel y gallwch eu helpu i lawr.
- Deialwch 999 er mwyn galw’r Gwasanaeth Tân allan neu gweiddwch am gymorth, fel y gall rhywun ffonio ar eich rhan.
Cofiwch, mae cynllun gweithredu mewn tân yn ymwneud â mwy na dim ond dianc, mae’n dweud wrthych sut i atal tân rhag amlygu yn y lle cyntaf. Cymerwch beth amser i baratoi eich cynllun gweithredu mewn tân heddiw, gallai achub eich bywyd.
Gwasanaeth Tân Ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru
Pencadlys Gwasanaeth
Heol Llwyn Pisgwydd,
Caerfyrddin
Sir Gâr
SA31 1SP
Ewch i'n Ffurflen Cyswllt
Ffôniwch ar 0370 6060699