Am 9.10yb ddydd Llun, Ionawr 13eg, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Y Trallwng, Llanfair Caereinion, Trefaldwyn, Llanfyllin a’r Drenewydd, gyda chefnogaeth criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Swydd Amwythig, eu galw i ddigwyddiad ar Stryd Berriew yn Y Trallwng.
Ymatebodd y criwiau i dân o fewn fflat ar ail lawr adeilad tri llawr sy’n cynnwys eiddo masnachol a domestig. Defnyddiodd y criwiau wyth set o offer anadlu, dwy chwistrell olwyn piben, un chwistrell 45mm ac ysgolion i ddiffodd y tân.
Roedd yr holl drigolion yn bresennol a derbyniodd un claf driniaeth feddygol yn y fan a’r lle. Roedd Heddlu Dyfed-Powys hefyd yn bresennol ac roedd y ffordd ar gau tra bod y digwyddiad yn mynd ymlaen. Gadawodd y criwiau am 12.36yp.
Llun gan Powys County Times.

Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad a Gwnewch Wahaniaeth Go Iawn
Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth ac eich cymuned.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alwad ym mhob un o’n Gorsafoedd Tân Ar Alwad.
Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.
Y Newyddion Diweddaraf
-
Noson Recriwtio yng Ngorsaf Dân Aberteifi
08.07.2025
-
Digwyddiad: Tân Ysgubor yn Llandeilo
04.07.2025
-
Cylchgrawn Calon Tân: Haf 2025
04.07.2025