Am 12.48yp, ddydd Gwener, Chwefror 7fed, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Crymych, Hendy-gwyn, Rhydaman, Aberdaugleddau a Hwlffordd eu galw i ddigwyddiad yng Nghlunderwen.
Ymatebodd y criwiau i dân yn effeithio ar eiddo domestig cyfan a oedd yn mesur tua 20 metr wrth 6 metr.
Tynnwyd un claf o’r eiddo a derbyniodd therapi ocsigen gan y criwiau.
Defnyddiodd y criwiau ddwy brif chwistrell, dwy chwistrell olwyn piben, anadlyddion, offer bach a system cyfnewid dŵr i ddiffodd y tân. Cwympodd to’r eiddo a difrodwyd strwythur yr eiddo’n sylweddol gan y tân. Ar ôl diffodd y tân, parhaodd y criwiau i huddo’r ardal cyn gadael am 3.31yp.

Ymweliad Diogel ac Iach
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cynnig Gwasanaeth Ymweliad Diogel ac Iach AM DDIM.
Yn ogystal â gosod larymau newydd a phrofi larymau, mae’r ymweliadau hyn yn darparu cyngor diogelwch amhrisiadwy ar bynciau sy’n cynnwys diogelwch yn y cartref, atal cwympo ac ymwybyddiaeth o sgamiau.
I archebu ymweliad Diogel ac Iach am ddim, ffoniwch 0800 169 1234 neu cwblhewch ein ffurflen ar-lein yma.
Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad a Gwnewch Wahaniaeth Go Iawn
Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth ac eich cymuned.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alwad ym mhob un o’n Gorsafoedd Tân Ar Alwad.
Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.
Y Newyddion Diweddaraf
-
Eisteddfod yr Urdd 2025 ym Mharc Margam!
03.06.2025
-
Calon Tân yn Fyr: Mis Mai 2025
30.05.2025