27.02.2025

Digwyddiad: Tân Mewn Eiddo yng Ngorseinon

Ddydd Iau, Chwefror 27ain, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) o Orsafoedd Tân Gorseinon, Gorllewin Abertawe a Llanelli eu galw i ddigwyddiad ar Heol Brighton yng Ngorseinon, Abertawe.

Gan Steffan John



Am 12.26yp, ddydd Iau, Chwefror 27ain, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) o Orsafoedd Tân Gorseinon, Gorllewin Abertawe a Llanelli eu galw i ddigwyddiad ar Heol Brighton yng Ngorseinon, Abertawe.

Ymatebodd y criwiau i dân o fewn eiddo domestig deulawr, diwedd teras.  Dechreuodd y tân yn ystafell aml-bwrpas ar lawr gwaelod yr eiddo.  Defnyddiodd y criwiau ddwy chwistrell olwyn piben, un prif chwistrell, chwe set o offer anadlu, tri chamera delweddu thermol, dwy ffan awyru pwysedd positif, dwy ysgol estyn ac offer bach i ddiffodd y tân.

Y gred yw bod y tân wedi dechrau’n ddamweiniol. Achoswyd difrod tân a mwg sylweddol yn yr eiddo. Gadawodd y criwiau am 2.01yp.






Diogelwch Nwyddau Gwynion

Dechreuodd y tân hwn yn ystafell aml-bwrpas yr eiddo ac mae GTACGC yn cyhoeddi nodyn atgoffa ar ddiogelwch nwyddau gwynion:

  • Peidiwch BYTH â gadael peiriannau heb unrhyw un yn eu goruchwylio - peidiwch â throi'r sychwr dillad ymlaen cyn i chi adael y tŷ neu fynd i'r gwely. Mae peiriannau sychu dillad yn cynnwys moduron pwerus gyda rhannau sy'n symud yn gyflym a all fynd yn boeth iawn.
  • Peidiwch â gorlwytho'ch sychwr dillad na’i ddefnyddio i sychu eitemau sydd wedi cael eu defnyddio i amsugno hylifau fflamadwy gan gynnwys olew coginio.
  • Peidiwch ag anwybyddu’r arwyddion rhybudd – os gallwch arogli llosgi neu os bydd dillad yn teimlo’n boethach ar ddiwedd y cylch, gofynnwch i weithiwr proffesiynol gael golwg ar y peiriant.

Mae mwy o wybodaeth am ddiogelwch nwyddau gwynion ar gael yma.



Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad a Gwnewch Wahaniaeth Go Iawn

Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth ac eich cymuned.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alwad ym mhob un o’n Gorsafoedd Tân Ar Alwad.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf