08.01.2025

Digwyddiad: Tân Peiriant Sychu Dillad ym Mhontarddulais

Nos Fawrth, Ionawr 7fed, ymatebodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Pontarddulais a Gorseinon i ddigwyddiad ar Ffordd Cambria ym Mhontarddulais.

Gan Steffan John



Am 6.25yh nos Fawrth, Ionawr 7fed, ymatebodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) o Orsafoedd Tân Pontarddulais a Gorseinon i ddigwyddiad ar Ffordd Cambria ym Mhontarddulais.

Ymatebodd y criwiau i dân peiriant sychu dillad, roedd deiliad yr eiddo wedi symud y peiriant o’r eiddo cyn i griwiau’r Gwasanaeth Tân ac Achub cyrraedd.  Defnyddiodd y criwiau un chwistrell olwyn piben, un ysgol ac un camera delweddu thermol i ddiffodd y tân. 

Dinistriwyd y peiriant yn llwyr gan dân, diolch byth, ni anafwyd unrhyw un.  Gadawodd y criwiau am 7.04yh.




Diogelwch Nwyddau Gwynion 

Yn dilyn y tân hwn, mae GTACGC yn atgoffa pobl am ddiogelwch sychwyr dillad a nwyddion gwynion:

  • Peidiwch BYTH â gadael peiriannau heb unrhyw un yn eu goruchwylio - peidiwch â throi'r sychwr dillad ymlaen cyn i chi adael y tŷ neu fynd i'r gwely. Mae peiriannau sychu dillad yn cynnwys moduron pwerus gyda rhannau sy'n symud yn gyflym a all fynd yn boeth iawn.
  • Peidiwch â gorlwytho'ch sychwr dillad na’i ddefnyddio i sychu eitemau sydd wedi cael eu defnyddio i amsugno hylifau fflamadwy gan gynnwys olew coginio.
  • Peidiwch ag anwybyddu’r arwyddion rhybudd – os gallwch arogli llosgi neu os bydd dillad yn teimlo’n boethach ar ddiwedd y cylch, gofynnwch i weithiwr proffesiynol gael golwg ar y peiriant.

Mae mwy o wybodaeth am ddiogelwch nwyddau gwynion ar gael ar yma.



Gwnewch Wahaniaeth a Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad

Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth ac eich cymuned.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alwad ym mhob un o’n Gorsafoedd Tân Ar Alwad.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf