25.07.2024

Digwyddiad: Tân Peiriant Sychu Dillad ym Mhorth Tywyn

Ddydd Iau, 18 Gorffennaf, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Llanelli, Port Talbot a Chydweli eu galw i ddigwyddiad ym Mhorth Tywyn.

Gan Steffan John



Am 10.58yb ddydd Iau, 18 Gorffennaf, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) o Orsafoedd Tân Llanelli, Port Talbot a Chydweli eu galw i ddigwyddiad ym Mhorth Tywyn.

Ymatebodd y criwiau i dân yng nghegin llawr gwaelod annedd ddomestig mewn tŷ pâr.  Achoswyd y tân gan sychwr dillad a defnyddiodd y criwiau chwe set o offer anadlu, tri chamera delweddu thermol, tair pibell jet, un hydrant a mân offer i ddiffodd y tân.

Cafodd cegin yr eiddo ei dinistrio'n llwyr gan y tân. Parhaodd y criwiau i fonitro am fannau poeth cyn gadael y safle am 1pm.

Diogelwch Peiriannau Sychu Dillad

Yn dilyn y tân hwn, mae GTACGC yn atgoffa pobl am ddiogelwch sychwyr dillad.

  • Peidiwch BYTH â gadael peiriannau heb unrhyw un yn eu goruchwylio - peidiwch â throi'r sychwr dillad ymlaen cyn i chi adael y tŷ neu fynd i'r gwely. Mae peiriannau sychu dillad yn cynnwys moduron pwerus gyda rhannau sy'n symud yn gyflym a all fynd yn boeth iawn.
  • Peidiwch â gorlwytho'ch sychwr dillad na’i ddefnyddio i sychu eitemau sydd wedi cael eu defnyddio i amsugno hylifau fflamadwy gan gynnwys olew coginio.
  • Peidiwch ag anwybyddu’r arwyddion rhybudd – os gallwch arogli llosgi neu os bydd dillad yn teimlo’n boethach ar ddiwedd y cylch, gofynnwch i weithiwr proffesiynol gael golwg ar y peiriant.

Mae mwy o wybodaeth am ddiogelwch nwyddau gwynion ar gael ar yma.


Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf