02.09.2025

Digwyddiad: Tân Peiriant Sychu Dillad yn Nhyddewi

Ddydd Llun, Medi 1af, ymatebodd Diffoddwyr Tân o Orsafoedd Tân Tyddewi, Abergwaun a Hwlffordd i dân mewn eiddo yn Nhyddewi.

Gan Steffan John



Am 7.32yh ddydd Llun, Medi 1af, galwyd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) o Orsafoedd Tân Tyddewi, Abergwaun a Hwlffordd i ddigwyddiad ar Stryd Fawr Tyddewi.

Ymatebodd y criwiau i dân o fewn eiddo tri llawr oedd yn cynnwys cymysgedd o eiddo masnachol a phreswyl. Cyfyngwyd y tân i ystafell golchi dillad ar lawr cyntaf yr eiddo.

Defnyddiodd y criwiau chwe set o offer anadlu, tair chwistrell olwyn piben, camerâu delweddu thermol a pheiriant ysgol trofwrdd i ddiffodd y tân.  Ar ôl diffodd y tân, gwnaeth y criwiau symud gweddillion o’r ystafell golchi er mwyn osgoi ailgynnau.  Credir mai peiriant sychu dillad oedd wedi achosi'r tân.

Mae'r digwyddiad hwn wedi tynnu sylw at effeithiolrwydd cadw drysau ar gau o fewn eiddo, gan fod y drysau ar gau wedi atal y tân rhag lledu i rannau eraill o'r eiddo.



Diogelwch Nwyddau Gwynion 

Yn dilyn y tân hwn, mae GTACGC yn atgoffa pobl am ddiogelwch sychwyr dillad a nwyddion gwynion:

  • Peidiwch BYTH â gadael peiriannau heb unrhyw un yn eu goruchwylio - peidiwch â throi'r sychwr dillad ymlaen cyn i chi adael y tŷ neu fynd i'r gwely. Mae peiriannau sychu dillad yn cynnwys moduron pwerus gyda rhannau sy'n symud yn gyflym a all fynd yn boeth iawn.
  • Peidiwch â gorlwytho'ch sychwr dillad na’i ddefnyddio i sychu eitemau sydd wedi cael eu defnyddio i amsugno hylifau fflamadwy gan gynnwys olew coginio.
  • Peidiwch ag anwybyddu’r arwyddion rhybudd – os gallwch arogli llosgi neu os bydd dillad yn teimlo’n boethach ar ddiwedd y cylch, gofynnwch i weithiwr proffesiynol gael golwg ar y peiriant.

Mae mwy o wybodaeth am ddiogelwch nwyddau gwynion ar gael ar yma.






Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad a Gwnewch Wahaniaeth Go Iawn

Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth ac eich cymuned.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alwad ym mhob un o’n Gorsafoedd Tân Ar Alwad.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.

Erthygl Flaenorol