Mae Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru yn eich annog i fod yn #DoethiDanauGwyllt y gwanwyn a'r haf hwn.
Wrth i'r tymhorau newid a thywydd cynhesach ddechrau cyrraedd, mae'n gyfle perffaith i wneud y gorau o'r awyr agored. P'un a yw hynny'n golygu cynllunio gwyliau gartref, mynd ar daith wersylla i'r teulu, neu archwilio harddwch cefn gwlad Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Mae'r gwanwyn a'r haf yn dod â risg uwch o danau gwyllt. Mae Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru yn annog pawb i fod yn #DoethiDanauGwyllt trwy ddilyn ein cyngor diogelwch syml, ymarferol. Gall ychydig bach o ofal ychwanegol wneud gwahaniaeth enfawr, gan helpu i amddiffyn ein cefn gwlad syfrdanol a chadw cymunedau'n ddiogel rhag effaith ddinistriol tanau gwyllt.
Yn 2025, ymatebodd y gwasanaethau tân ledled Cymru i 3,474 o ddigwyddiadau tanau glaswellt - cynnydd o 275% ar y flwyddyn flaenorol.
Yn fwyaf pryderus:
Cododd tanau glaswellt bwriadol i 2,357 o ddigwyddiadau, cynnydd o 1,694 o danau (i fyny 256%).
Mae hyn yn cynrychioli'r nifer uchaf o danau glaswellt ers 2018, gan dynnu sylw at duedd bryderus iawn sy'n peryglu pobl, eiddo, bywyd gwyllt ac adnoddau cymunedol hanfodol.
Ar yr adeg hon o'r flwyddyn, gall glaswellt a llethrau mynyddoedd sychu'n gyflym. Gall hyd yn oed gwreichionen fach - damweiniol neu fwriadol—droi’n dân sy'n symud yn gyflym ac sy'n gallu dinistrio cynefinoedd, tirweddau, a chartrefi o fewn munudau.
Mae’r Bwrdd Tanau Gwyllt yn awyddus i weithio gyda'n cymunedau er mwyn creu tirwedd sy’n iachach ac yn fwy gwydn, a hynny trwy wella bioamrywiaeth ar gyfer ein dyfodol.
Nod ein hymgyrch #DoethiDanauGwyllt yw addysgu unigolion am yr arferion gorau o ran osgoi ac atal tanau gwyllt yng Nghymru.
Trwy wella ymwybyddiaeth o beryglon posibl tanau gwyllt, bydd yr ymgyrch yn annog pobl i fod yn fwy gwyliadwrus pan fyddant allan yn yr awyr iach ac i fod yn weithgar wrth adrodd am weithgareddau amheus a allai arwain at danau.
Gellir atal llawer iawn o danau gwyllt, ac mae ambell i beth bach y gallwn wneud er mwyn cyfyngu ar ba mor aml y maent yn digwydd a chyfyngu ar eu heffaith.
Dywedodd Andrew Wright, Cadeirydd Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru ac Uwch Gynghorydd Arbenigol - Iechyd Planhigion a Throsglwyddo Gwybodaeth yn Cyfoeth Naturiol Cymru: