25.10.2024

Eich cadw'n ddiogel adeg Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt eleni

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru eisiau codi ymwybyddiaeth y cyhoedd ynghylch sut i gadw'n ddiogel adeg Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt eleni. 

Gan Rachel Kestin



Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru eisiau codi ymwybyddiaeth y cyhoedd ynghylch sut i gadw'n ddiogel adeg Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt eleni. 

Mae GTACGC yn gweithio mewn partneriaeth â Heddlu Dyfed-Powys, Heddlu De Cymru, Awdurdodau Lleol ac asiantaethau partner eraill i greu amgylchedd mwy diogel i bawb adeg Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt, gan alluogi cymunedau i ddathlu'n gyfrifol ac yn ddiogel. Mae gennym gyngor diogelwch hanfodol i'r rhai sy'n dymuno dathlu:

Diogelwch Calan Gaeaf:
I lawer, yn enwedig plant a phobl ifanc, mae Calan Gaeaf yn gyfle i wisgo gwisgoedd ffansi, cerfio pwmpenni, adrodd straeon arswydus ac, wrth gwrs, y curo blynyddol ar ddrysau pobl y maent yn eu hadnabod gan ofyn am ddanteithion, ond mae yna risgiau tân posibl yn ystod y cyfnod hwn.

Rydym wedi tynnu sylw at rai o'r peryglon posibl a'r hyn y gellir ei wneud i leihau'r risgiau, er mwyn sicrhau bod y gymuned yn mwynhau Calan Gaeaf yn ddiogel:

  • Oes gennych chi lwybr dianc clir os bydd tân?
    Cadwch allanfeydd yn glir ac yn ddirwystr - gall hyn fod yn fwy o broblem yn ystod Calan Gaeaf pan fydd eitemau'n cael eu gosod o amgylch y tŷ a ger allanfeydd er mwyn addurno. 
  • Ydych chi wedi ystyried y peryglon sy'n gysylltiedig â thân a gwisgoedd Calan Gaeaf?
    Mae'n hanfodol bwysig bod marc 'CE' ar label y gwisgoedd. Er hynny, fel pob dilledyn, cofiwch y gall gwisgoedd fynd ar dân yn hawdd. 
  • Ydy'ch canhwyllau yn eich rhoi chi mewn perygl?
    Ystyriwch ddewisiadau eraill yn lle canhwyllau, fel canhwyllau batri LED heb fflam, a fydd yn creu’r un effaith arswydus. Mae iddynt fanteision ychwanegol hefyd - gellir eu defnyddio y tu allan, ac ni fydd y gwynt yn gallu eu diffodd.

Dywedodd Steven Davies, Pennaeth Diogelwch Cymunedol Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru:

"Dros gyfnod Calan Gaeaf mae'r risgiau sy'n gysylltiedig â thân yn cael eu dwysáu. Gallai’r defnydd o fflamau agored mewn pwmpenni, ynghyd â'r defnydd o wisgoedd nad ydynt, o bosib, yn cydymffurfio â rheoliadau diogelwch tân, arwain at drychineb. Os ydych chi'n bwriadu gwisgo gwisg ffansi adeg Calan Gaeaf, gwnewch yn siŵr bod gan eich gwisg y marc 'CE'. Gall newidiadau syml olygu eich bod yn llawer mwy tebygol o gael Calan Gaeaf diogel a hapus, fel defnyddio canhwyllau LED yn eich pwmpenni a chadw allanfeydd yn glir o addurniadau Calan Gaeaf.”



Diogelwch Noson Tân Gwyllt:
Yn draddodiadol, mae noson tân gwyllt yn cael effaith sylweddol ar GTACGC ac asiantaethau partner. O ganlyniad, mae'r Gwasanaeth yn cynghori pawb i barchu eu cymunedau a’u hamddiffyn eu hunain, pobl eraill, yr amgylchedd a'r gwasanaethau brys rhag niwed, a mwynhau digwyddiadau trwy ddilyn rhagofalon diogelwch sylfaenol.

Bob blwyddyn, mae GTACGC yn gweld coelcerthi peryglus yn cael eu hadeiladu. Gall y coelcerthi hyn gynnwys eitemau sy’n wenwynig neu eitemau eraill sy’n achosi perygl i wylwyr, boed yn risg o ffrwydrad neu amgylchiadau eraill. Mae’r coelcerthi hyn yn beryglus i’r cyhoedd, a gall coelcerthi sydd wedi’u hadeiladu’n wael gael effaith sylweddol ar yr amgylchedd hefyd. Bydd ein staff lleihau tanau bwriadol a diogelwch cymunedol yn gweithio gyda'r heddlu ac awdurdodau lleol i sicrhau bod cymunedau'n cael eu cadw'n ddiogel. 

Dywedodd Scott O'Kelly, Rheolwr Lleihau Tanau Bwriadol:

"Gall yr adeg hon o'r flwyddyn ddod â hwyl ac adloniant i'r teulu cyfan. Fodd bynnag, mae yna rai peryglon difrifol sy'n gysylltiedig â choelcerthi a'r defnydd o dân gwyllt. Yn draddodiadol, mae problemau'n digwydd wrth ddefnyddio tân gwyllt, yn enwedig pan fyddant yn cyrraedd y dwylo anghywir. Mae yna bethau syml y gellir eu gwneud i sicrhau bod gwylwyr yn cael eu cadw’n ddianaf, ac i ddiogelu’r amgylchedd cyfagos rhag cael ei ddifrodi yn ystod noson tân gwyllt. Gellir lleihau llawer o beryglon drwy fynd i arddangosfa sydd wedi’i threfnu’n swyddogol ar noson tân gwyllt. Er mwyn cadw’n ddiogel ac o fewn y gyfraith ar noson tân gwyllt, dilynwch yr wybodaeth sydd ar ein gwefan.”



Mae tân gwyllt yn cael eu graddio o fewn categorïau, gydag isafswm pellteroedd diogelwch gwahanol, ac mae ganddynt gyfarwyddiadau penodol y dylid eu dilyn er mwyn sicrhau bod pawb yn cael eu cadw'n ddiogel.

  • Cofiwch eu prynu gan adwerthwr ag enw da bob amser, a dilynwch gyfarwyddiadau tân gwyllt unigol.
  • Sicrhewch eich bod yn storio tân gwyllt yn unol â'r cyfarwyddiadau a restrir; dylid storio tân gwyllt yn eu pecyn gwreiddiol mewn lle sych ymhell o ffynonellau gwres neu danio.
  • Cadwch dân gwyllt i ffwrdd oddi wrth blant bob amser.

Mae GTACGC yn annog y cyhoedd i ddathlu'r ddwy noson yn y ffordd fwyaf diogel posibl. 

I gael gwybodaeth am ddeunydd addysgol i blant ynglŷn â chadw'n ddiogel adeg Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt eleni, ewch i StayWiseCymru. Mae'r cynlluniau gwersi canlynol ar ddiogelwch Calan Gaeaf / Noson Tân Gwyllt hefyd ar gael:

Cynllun Gwers Diogelwch Calan Gaeaf | StayWise Cymru
Cynllun Gwers Sbarc yn Cadw'n Ddiogel ar Noson Tân Gwyllt | StayWise Cymru
Cynllun Gwers y Cyfnod Sylfaen Sbarc yn Cadw'n Ddiogel ar Noson Tân Gwyllt | StayWise Cymru
Cynllun Gwers Sbarc yn Cadw'n Ddiogel ar Noson Tân Gwyllt (ADY) | StayWise Cymru

i’n gwefan am fwy o wybodaeth am gadw'n ddiogel adeg Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt.

Gallwch hefyd ein dilyn ni ar ein sianeli Cyfryngau Cymdeithasol am ragor o negeseuon diogelwch.

X - @mawwfire
Facebook - @mawwfire
Instagram - mawwfire_rescue

 

 

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf