O'r chwith i'r dde: Y Rheolwr Criw Steve Richards, Swyddog Ymateb Meddygol Steven Jarvis, Y Prif Swyddog Tân Craig Flannery a Melanie James.
Mae cyflwyno'r pecynnau hyn yn nodi cam pwysig arall wrth gryfhau gallu'r Gwasanaeth i achub bywydau a gwella mynediad at offer brys o fewn cymunedau.
Wedi'u cynllunio i helpu i reoli gwaedu difrifol, gall y pecynnau CBC fod yn hanfodol mewn argyfyngau sy'n deillio o wrthdrawiadau ffyrdd, damweiniau difrifol, anafiadau trywanu, troseddau cyllyll a digwyddiadau trawmatig eraill. Drwy ddarparu mynediad uniongyrchol at offer arbenigol ar gyfer rheoli gwaedu, gall y pecynnau helpu i ddarparu cymorth cyn i'r gwasanaethau brys gyrraedd.
Mae'r broses o gyflwyno'r pecynnau yn rhan o fenter dan arweiniad Heartbeat UK mewn partneriaeth â The Daniel Baird Foundation, mae'r ddau sefydliad yn ymroddedig i wella mynediad y cyhoedd at ymyriadau sy'n achub bywydau. I nodi'r achlysur, croesawodd Prif Swyddog Tân GTACGC, Craig Flannery, a'r Swyddog Ymateb Meddygol, Steven Jarvis, Melanie James, Sylfaenydd Heartbeat UK a chyn Uchel Siryf Gorllewin Morgannwg, a Steve Richards, Rheolwr Criw a Llysgennad, i bencadlys y Gwasanaeth yng Nghaerfyrddin.