Dywedodd Cadeirydd Cyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Tân (NFCC), Phil Garrigan:
"Mae cymuned Tân ac Achub y DU yn parhau i fod yn ddiwyro yn ei chefnogaeth i gydweithwyr yn Wcráin. Bedair blynedd ar ôl dechrau'r goresgyniad ar raddfa lawn, mae diffoddwyr tân Wcráin yn parhau i weithredu yn yr amodau mwyaf heriol a pheryglus y gellir eu dychmygu.
Mae'r nawfed confoi hwn yn dangos ymrwymiad parhaus gwasanaethau tân ac achub y DU i sefyll ysgwydd wrth ysgwydd gyda'n cymheiriaid yn Wcráin. Bydd yr offer sy'n cael ei roi yn helpu i gymryd lle adnoddau hanfodol a gollwyd yn ystod y gwrthdaro ac yn sicrhau y gall diffoddwyr tân barhau â'u gwaith o achub bywydau.
Diffoddwyr tân yn cefnogi diffoddwyr tân. Mae'n enghraifft bwerus o'r cyfeillgarwch sy'n mynd y tu hwnt i ffiniau.
Mae'n hanfodol ein bod yn cydnabod yr heriau y mae ein cydweithwyr yn eu hwynebu a'n bod yn parhau i chwarae ein rhan."
Dywedodd Arweinydd FIRE AID Wcráin, Oksana Romanukha:
"Rydym unwaith eto yn gweld undod rhyfeddol cymunedau ledled y DU gydag Wcráin.
Mae'r cerbydau a'r offer hyn yn angenrheidiol, gan helpu i achub bywydau, amddiffyn diffoddwyr tân a chryfhau cydnerthedd cymunedau sydd dan fygythiad cyson.
Rydym yn ddiolchgar iawn i bawb ar draws y gymuned tân ac achub, a phawb sy'n gysylltiedig, sydd wedi gwneud yr ymdrech ar y cyd hon yn bosibl.”
Dywedodd y Gweinidog dros Ddiogelwch Adeiladau, Tân a Democratiaeth, Samantha Dixon:
"Mae Wcráin wedi wynebu dioddefaint o’r radd eithaf, ac rydym yn parhau i fod yn ddiwyro yn ein cefnogaeth.
Bydd y confoi hwn yn darparu'r cyfarpar hanfodol sydd ei angen i helpu gwasanaeth tân Wcráin i achub bywydau, ymateb i ymosodiadau, ac amddiffyn eu cymunedau.
Rwy'n hynod falch o'r gwirfoddolwyr dewr ar draws ein gwasanaeth tân ac achub, yn ogystal â'r holl sefydliadau sydd wedi chwarae rhan wrth symud yr asedau hanfodol hyn – gan sicrhau bod cymorth yn cyrraedd y rhai sydd ei angen fwyaf.”