Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) yn cefnogi Wythnos Diogelwch Nwy rhwng 14 a 20 Medi trwy helpu i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd diogelwch nwy ac annog pobl i ‘Beidio â Chymryd Unrhyw Siawns'.
Mae Wythnos Diogelwch Nwy yn ymgyrch flynyddol sy’n tynnu sylw at beryglon peiriannau nwy nad ydynt wedi cael eu cynnal a’u cadw’n briodol, a all arwain at ollyngiadau nwy, tanau, ffrwydriadau a gwenwyn carbon monocsid (CO).
Mae'r thema eleni, 'Peidiwch â Chymryd Unrhyw Siawns', yn atgoffa pobl i beidio ag anwybyddu pryderon am beiriannau nwy ac i ddefnyddio peiriannydd ar y gofrestr Diogelwch Nwy bob amser ar gyfer gwaith nwy. Gall cymryd camau prydlon helpu i atal digwyddiadau difrifol ac amddiffyn bywydau.
Dywedodd y Rheolwr Diogelwch Cartref, Gareth Hands: