18.09.2026

Y Tad a’r Mab: Tri Theulu o Ddiffoddwyr Tân yn Gwasanaethu Gyda'i Gilydd yng Ngorsaf Dân Llandrindod

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) yn dathlu gwaddol deuluol ryfeddol yng Ngorsaf Dân Llandrindod, lle mae tri thad yn gwasanaethu ochr yn ochr â'u meibion fel Diffoddwyr Tân Ar Alwad.

Gan Steffan John



Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) yn dathlu gwaddol deuluol ryfeddol yng Ngorsaf Dân Llandrindod, lle mae tri thad yn gwasanaethu ochr yn ochr â'u meibion fel Diffoddwyr Tân Ar Alwad.




O'r chwith i'r dde: Connor a Paul Treacy, Fin a Mark 'Dom' Hughes, a Richard a Brad Phillips.

Gyda'i gilydd, mae Paul a Connor Treacy, Mark 'Dom' a Fin Hughes, a Richard a Brad Phillips wedi ymroi mwy na 73 mlynedd o wasanaeth i ddiogelu eu cymunedau, gan ddangos y traddodiadau teuluol cryf a'r ysbryd cymunedol sy'n parhau i ffynnu o fewn y Gwasanaeth Tân ac Achub.

Mae’r ymrwymiad maent yn ei rannu i wasanaeth cyhoeddus yn dangos y cysylltiadau teuluol cryf a'r ysbryd cymunedol sy'n parhau i chwarae rhan bwysig yng GTACGC.  Ar un achlysur cofiadwy, ymatebodd y chwech i ddigwyddiad gyda'i gilydd ar fwrdd yr un injan dân.




Paul a Connor Treacy

Ymunodd y Rheolwr Criw Paul Treacy â GTACGC ar ôl cael ei annog i wneud cais gan gydweithiwr.  Ers hynny, mae wedi gwasanaethu cymuned Llandrindod a'r ardal gyfagos am fwy na 16 mlynedd, gan gael ei alw i ystod eang o ddigwyddiadau a chefnogi ymateb y Gwasanaeth i argyfyngau lleol.

Ymunodd y Diffoddwr Tân Connor Treacy â'r Gwasanaeth ychydig dros flwyddyn yn ôl, ar ôl datblygu diddordeb yn y Gwasanaeth Tân ac Achub o oedran ifanc.  Roedd cael ei fagu o amgylch Gorsaf Dân Llandrindod a gweld ei dad yn cyflawni ei ddyletswyddau fel Diffoddwr Tân Ar Alwad yn rhoi cipolwg gwerthfawr iddo o'r rôl a'r ymrwymiad sydd ei angen.

I Paul a Connor, un o'r agweddau mwyaf gwerth chweil o fod yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad yw'r cyfle i wasanaethu a diogelu'r cymunedau y maent yn byw ac yn gweithio ynddynt.




Mark 'Dom' a Fin Hughes

Fel yr un sydd wedi gwasanaethu hiraf o’r tri thad, mae’r Rheolwr Criw Mark ‘Dom’ Hughes wedi rhoi mwy na 26 mlynedd i Orsaf Dân Llandrindod.  Mae'r hyn a ddechreuodd fel cyfle am her, cyfeillgarwch ac incwm ychwanegol wedi tyfu i fod yn ymrwymiad parhaol i wasanaethu cymuned Llandrindod ochr yn ochr â chriw ymroddedig.

Wedi'i ysbrydoli gan ymrwymiad ei dad, ymunodd mab Dom, y Diffoddwr Tân Fin Hughes, â chriw Llandrindod dair blynedd yn ôl.  Fel Dom, cafodd ei ddenu at y cyfeillgarwch o fod yn rhan o'i Orsaf Dân leol, yn ogystal â'r cyfle i ddatblygu sgiliau newydd ac, fel y mae'n cellwair, i ychwanegu rhywbeth diddorol at ei broffil detio ar-lein!




Richard a Brad Phillips

Mae'r Diffoddwr Tân Richard Phillips wedi gwasanaethu cymuned Llandrindod ers dros 24 mlynedd, wedi'i ysgogi gan awydd i ymgymryd â rôl a oedd yn heriol ac yn werth chweil.  I Richard, mae'r cyfle i wasanaethu a chefnogi ei gymuned leol yn parhau i fod yn un o'r rhannau pwysicaf o fod yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad.

Ymunodd mab Richard, y Diffoddwr Tân Brad Phillips, â chriw Llandrindod dair blynedd yn ôl ac ers hynny mae wedi defnyddio'r sgiliau a'r profiad a gafodd fel Diffoddwr Tân Ar Alwad i symud ymlaen i rôl Diffoddwr Tân Amser Cyflawn gyda Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yng Ngorsaf Dân Glynebwy.  I Brad, mae'r rhannau mwyaf gwerth chweil o'r rôl yn cynnwys bod yn aelod uchel ei barch o'r gymuned a gweld y rhyddhad a'r gwerthfawrogiad y mae pobl yn ei ddangos pan fydd y criw yn cyrraedd digwyddiad.

Mae cysylltiad y teulu â Gorsaf Dân Llandrindod yn ymestyn hyd yn oed ymhellach, gyda merch Richard hefyd wedi gwasanaethu fel Diffoddwr Tân yn y gorffennol.



Mae straeon y teuluoedd Treacy, Hughes a Phillips yn tynnu sylw at y rôl unigryw y mae cysylltiadau teuluol, ymrwymiad ac ysbryd cymunedol yn ei chwarae o fewn y Gwasanaeth Tân ac Achub.

Wrth feddwl beth fyddai’r cyngor y byddent yn ei roi i unrhyw un sy'n ystyried dod yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad, gan ystyried eu blynyddoedd o wasanaeth gyda’i gilydd, roedd gan y chwech neges gyffredin: gweithio'n galed, parhau’n ymrwymedig a gwneud y gorau o bob cyfle.  Cytunwyd bod y rôl yn cynnig profiadau amhrisiadwy a bod y gwobrau o wasanaethu'r gymuned yn un mor fawr â'r ymdrech a fuddsoddwyd yn y rôl.

Mae presenoldeb tri theulu o Ddiffoddwyr Tân sy’n dad a mab yng Ngorsaf Dân Llandrindod yn adlewyrchiad pwerus o'r ymroddiad, y balchder a'r ymdeimlad o ddyletswydd sy'n sail i rôl Diffoddwyr Tân Ar Alwad a GTACGC.



Wrth siarad am eu hymroddiad, dywedodd Rheolwr yr Orsaf, Sam Harries:

"Mae'n arbennig iawn cael tri thad yn gwasanaethu ochr yn ochr â'u meibion yma yng Ngorsaf Dân Llandrindod, ac mae'n adlewyrchiad gwych o'r ysbryd a'r ymrwymiad cymunedol cryf sy'n bodoli o fewn ein criw.

Mae’r teuluoedd Treacy, Hughes a Phillips wedi gwneud cyfraniad eithriadol i'r orsaf, ac rydym yn hynod falch o'r gwasanaeth maen nhw'n parhau i'w roi wrth gefnogi eu cymunedau lleol."



Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad a Gwnewch Wahaniaeth Go Iawn!

Ar hyn o bryd mae GTACGC yn recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alwad.  Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o'n Gwasanaeth a'ch cymuned.  

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn rhoi llawer o gyfleoedd ar gyfer  datblygu’n bersonol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau.  Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn cael tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys taliadau cadw a thaliadau am gael eu galw allan, sy'n ychwanegu at eu hincwm o waith arall.




30 Mlynedd o GTACGC

Ers ei ffurfio yn 1996, mae GTACGC wedi tyfu i fod yn un o sefydliadau tân ac achub mwyaf y DU, gan wasanaethu tirwedd eang ac amrywiol, o bentrefi gwledig a threfi arfordirol i ddinasoedd trefol prysur.

Trwy gydol y cyfnod hwn, mae ein timau wedi ymateb i filoedd o argyfyngau, wedi bod yn hybu diogelwch a chamau atal tân ac wedi addasu'n barhaus i heriau newydd gyda phroffesiynoldeb a gwydnwch.

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf