26.08.2026

Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn Diolch i Gymunedau yn ystod Galw Digynsail

Dros yr wythnosau diwethaf, mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi ymateb i nifer eithriadol o uchel o argyfyngau, gan gynnwys tanau gwyllt mawr a thanau eiddo sylweddol ar draws ei ardal ymateb.

Gan Steffan John



Dros yr wythnosau diwethaf, mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) wedi ymateb i nifer eithriadol o uchel o argyfyngau, gan gynnwys tanau gwyllt mawr a thanau eiddo sylweddol ar draws ei ardal ymateb.

Roedd y galw parhaus hwn yn rhoi pwysau sylweddol ar adnoddau, gyda Diffoddwyr Tân, Gweithredwyr Ystafelloedd Rheoli a staff cefnogol yn gweithio'n ddiflino i amddiffyn cymunedau, cartrefi, busnesau a'r amgylchedd.

Mae GTACGC yn cydnabod na allent gyflawni gweithrediadau o'r maint yma ar eu pen eu hunain.  Trwy gydol y cyfnod hwn, mae'r gefnogaeth, yr amynedd a'r cydweithrediad a ddangoswyd gan gymunedau a budd-ddeiliad lleol wedi cael eu gwerthfawrogi'n fawr ac wedi chwarae rhan bwysig o ran helpu i ddiogelu pobl ac eiddo.

Ni fyddai'r gwaith hwn wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth Gwasanaethau Tân ac Achub eraill trwy drefniadau cymorth cydfuddiannol, gan gynnwys Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC), Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Swydd Gaerhirfryn.

Mae GTACGC hefyd am ddiolch yn ddiffuant i asiantaethau partner, gan gynnwys Heddlu Dyfed-Powys, Heddlu De Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Awdurdodau Lleol, y mae eu cydweithrediad a'u cymorth wedi bod yn amhrisiadwy.

Hoffai GTACGC hefyd ddiolch o galon i gymunedau lleol, tirfeddianwyr, ffermwyr a busnesau ledled Canolbarth a Gorllewin Cymru.  Trwy gydol y digwyddiadau hyn, dangosodd cymunedau haelioni rhyfeddol trwy roi prydau bwyd, lluniaeth, eitemau hylendid, offer, gwybodaeth leol a chymorth ymarferol i griwiau sy'n gweithio dan amodau heriol.  Gwnaeth ffermwyr lleol gyfraniad sylweddol at ymdrechion i reoli a diffodd tanau gwyllt, gan roi’n hael o’u hamser a’u hadnoddau mewn ardaloedd bregus, gan ddefnyddio peiriannau amaethyddol, tractorau a thanceri dŵr. 

Mae’r sychder diweddar a chyfnodau parhaus o dywydd cynnes, sych wedi gadael y llystyfiant yn eithriadol o sych ac hylosg, gan gynyddu’r risg o danau gwyllt yn sylweddol a galluogi tanau i ledaenu'n gyflym ar draws ardaloedd mawr.




Llun gan NCJ Media.



Dywedodd Prif Swyddog Tân GTACGC, Craig Flannery:

"Mae'r wythnosau diwethaf wedi cyflwyno rhai o'r heriau gweithredol mwyaf y mae ein Gwasanaeth wedi'u hwynebu yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Sefydlwyd Tîm Digwyddiadau Critigol oherwydd nifer y digwyddiadau mawr yr oedd criwiau yn ymateb iddynt ar yr un pryd.  Diolch byth, oherwydd y cynnydd a wnaed gan ein criwiau ymroddedig, mae’r tîm bellach wedi cael ei ddileu.

Mae parodrwydd cymunedau i gynorthwyo, yn aml ar fyr rybudd ac yn ystod amgylchiadau anodd, wedi chwarae rhan sylweddol o ran helpu ein criwiau i ymateb yn effeithiol ac yn ddiogel, ac rydym yn ddiolchgar iawn am eu cefnogaeth."



Er bod y cyfnod o weithgarwch tanau gwyllt digynsail wedi tawelu, mae criwiau GTACGC yn parhau i ymateb i nifer o ddigwyddiadau parhaus a'u rheoli.  Mae Diffoddwyr Tân yn parhau i fod yn y fan a'r lle yn monitro'r amodau, gan fynd i'r afael â mannau problemus ynysig a chymryd camau i atal y tân rhag lledaenu ymhellach.




Mae digwyddiadau nodedig yn ystod yr wythnosau diwethaf yn cynnwys:

Digwyddiad Tân Gwyllt Mawr yng Nghronfa Ddŵr Llangynidr

O ddydd Gwener, 7 Awst, bu Diffoddwyr Tân o GTACGC a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn ymateb i dân gwyllt sylweddol yng Nghronfa Ddŵr Llangynidr ger Glynebwy.

Ar anterth y digwyddiad, roedd y tân yn gorchuddio tua 400 hectar.

Yn ymateb i'r digwyddiad hwn roedd sawl peiriant tân, tanciau dŵr, cerbydau pob tir, cerbydau 4x4, asedau gwydnwch cenedlaethol a hofrennydd diffodd tân arbenigol.

Digwyddiad Tân Gwyllt Mawr yn Rhandirmwyn

O ddydd Mercher, 12 Awst, bu Diffoddwyr Tân o GTACGC, gyda chefnogaeth criw o Wasanaeth Tân ac Achub Swydd Gaerhirfryn, yn ymateb i dân gwyllt sylweddol yn Rhandirmwyn.

Ar anterth y digwyddiad, roedd y tân yn gorchuddio tua 250 hectar.

Digwyddiad Tân Gwyllt yn Nant Glas

O ddydd Mercher, 12 Awst, bu Diffoddwyr Tân o GTACGC yn ymateb i dân gwyllt sylweddol yn Nant Glas yn ardal Llandrindod.

Ar anterth y digwyddiad, roedd y tân yn gorchuddio tua 270 hectar.

Ymatebodd cyfanswm o 15 injan dân, tri cherbyd 4x4 ysgafn, dau gerbyd ymateb gwledig, un tanc dŵr ac un cerbyd pob tir i'r digwyddiad hwn.

Digwyddiad Tân Gwyllt yn Nhalyllychau

Ddydd Iau, 13 Awst, ymatebodd Diffoddwyr Tân o GTACGC i dân gwyllt mawr yn Nhalyllychau, ger Llandeilo.

Roedd y tân yn gorchuddio tua 10 hectar o lethrau bryn, sy’n amodau heriol i griwiau diffodd tân.

Digwyddiad Tân Gwyllt ar draeth Morfa Bychan ym Mhentywyn

O ddydd Sul, 16 Awst, bu diffoddwyr tân o GTACGC yn ymateb i dân gwyllt ger Traeth Morfa Bychan ym Mhentywyn.

Tân Sylweddol mewn Eiddo yn Abertawe

Ddydd Gwener, 14 Awst, ymatebodd sawl criw GTACGC i dân sylweddol mewn eiddo masnachol ym Melin y Parc Abertawe.

Cafodd yr eiddo ei ddinistrio'n llwyr gan dân.

Digwyddiad Tân Gwyllt ar Fynydd Drumau

Ddydd Llun, Awst 24ain, ymatebodd nifer o griwiau MAWWFRS i dân gwyllt ar Fynydd Drumau yn Sgiwen.

Gorchuddiodd y tân tua 100 hectar o goed a thir prysgwydd.

Digwyddiad Tân Gwyllt yng Nglascwm

Ers dydd Llun, Awst 24ain, mae criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi bod yn ymateb i dân gwyllt yng Nglasgwm yn Llanfair-ym-Muallt.

Mae'r digwyddiad hwn dal yn mynd ymlaen.  Mae'r tân wedi effeithio ar oddeutu 90 hectar o dir.



Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru

Er bod gweithgarwch gweithredol wedi lleihau, mae'r amodau’n parhau i fod yn ffafriol ar gyfer datblygiad tanau gwyllt.  Felly, mae GTACGC yn parhau i weithio gyda Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru i hyrwyddo atal tanau gwyllt ac annog ymddygiad cyfrifol yng nghefn gwlad.

Trwy godi ymwybyddiaeth o risgiau tanau gwyllt, nod yr ymgyrch yw helpu i amddiffyn cymunedau, bywyd gwyllt, eiddo a'r amgylchedd naturiol.

Darllenwch fwy yma.

Erthygl Flaenorol