14.01.2026

Gwneud Gwahaniaeth fel Diffoddwr Tân Ar Alwad: Cian Jones

Mae Cian Jones yn falch o wasanaethu ei gymuned leol fel Diffoddwr Tân ar Alwad yng Ngorsaf Dân Castell Newydd Emlyn, rôl y mae'n ei ddisgrifio fel rôl hynod werthfawr.

Gan Steffan John



"Rydych chi'n gwneud gwahaniaeth ac rydw i wastad wedi bod eisiau gwneud hynny."

Mae Cian Jones yn falch o wasanaethu ei gymuned leol fel Diffoddwr Tân ar Alwad yng Ngorsaf Dân Castell Newydd Emlyn, rôl y mae'n ei ddisgrifio fel un hynod werthfawr.

Ers ymuno â Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) yn ddim ond 18 oed, mae Cian wedi ymroi i amddiffyn ei gymuned ac wedi ennill cyfoeth o sgiliau a phrofiad trwy ymateb i ddigwyddiadau a hyfforddiant cynhwysfawr.  O ymateb brys i waith tîm ac arweinyddiaeth, mae ei rôl wedi ei siapio yn bersonol ac yn broffesiynol.

Yn y fideo hwn, mae Cian yn rhannu ei brofiadau o weithio fel Diffoddwr Tân Ar Alwad a'r hyn y mae wedi'i ennill o'r rôl.  Mae stori Cian yn tynnu sylw at sut mae'r rôl hanfodol hon nid yn unig yn diogelu cymunedau ond hefyd yn darparu cyfleoedd ar gyfer datblygu ac ymdeimlad o bwrpas.

Mae youtube.com wedi'i rwystro oherwydd eich dewisiadau cwci cyfredol, gallwch newid y rheini trwy glicio ar y botwm cwci yn y gornel dde isaf ar unrhyw dudalen.



Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad a Gwnewch Wahaniaeth Go Iawn

Does dim swydd arall sy’n debyg i Ddiffodd Tanau, mae’n gyffrous, yn wahanol bob dydd, ac mae’n cynnig boddhad mawr. Cewch deimlo eich bod yn cyfrannu at wasanaeth hanfodol gan ennyn parch eich cymuned leol.

Mae GTACGC yn dibynnu ar Ddiffoddwyr Tân Ar Alwad, ac mae 75% o orsafoedd y Gwasanaeth yn cael eu criwio gan Ddiffoddwyr Tân Ar Alwad yn unig.  Maen nhw’n ymateb i amrywiaeth eang o ddigwyddiadau, gan gynnwys tanau, gwrthdrawiadau ar y ffyrdd, argyfyngau cemegol, achub anifeiliaid, llifogydd a mwy.  Maen nhw hefyd yn chwarae rhan allweddol mewn addysg a diogelwch cymunedol, gan ymweld â chartrefi pobl i wneud archwiliadau Diogel ac Iach.

Mae GTACGC ar hyn o bryd yn recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alwad.  Mae mwy o wybodaeth ar gael yma.




Diffodd Tân, Eich Ffordd Chi

Mae system bandio cyflogau ac argaeledd GTACGC yn cydnabod yr angen i gydbwyso gwaith a bywyd personol, gan gynnig mwy o hyblygrwydd i’r rhai sy’n awyddus i ddod yn Ddiffoddwyr Tân Ar Alwad.

Mae’r system bandio yn cynnig pum dewis argaeledd i ddisodli’r ddau a oedd ar gael cynt, gan roi mwy fyth o hyblygrwydd i’n Diffoddwyr Tân Ar Alwad a’n darpar Ddiffoddwyr Tân Ar Alwad ddewis sut maen nhw am wasanaethu.

Mae’r system bandio yn cynnwys y dewisiadau canlynol:

  • Band 5: Ar gael am o leiaf 120 awr yr wythnos.
  • Band 4: rhwng 91 awr a 119 awr yr wythnos
  • Band 3: rhwng 61 awr a 90 awr yr wythnos
  • Band 2: rhwng 31 awr a 60 awr yr wythnos
  • Band 1: hyd at 30 awr yr wythnos

Yn ogystal â’r hyblygrwydd newydd hwn, mae’r system hefyd yn cynnig gwell buddion i’n Diffoddwr Tân Ar Alwad:

  • Hyblygrwydd o ran ymrwymiad: Gall Diffoddwyr Tân Ar Alwad wasanaethu eu cymunedau heb roi’r gorau i weithio swyddi eraill, a chan gynnal cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith. 
  • Tâl digolledu: Bydd Diffoddwr Tân Ar Alwad yn ennill cyflog am wneud ymarferiadau, am hyfforddi ac am ymateb i alwadau, a hynny ar ben eu tâl cadw blynyddol. 
  • Datblygiad personol: Byddant yn ennill sgiliau gwerthfawr i ymateb i argyfyngau ynghyd â mynediad at hyfforddiant ac ardystiadau proffesiynol.
  • Dilyniant gyrfa: Gallai dod yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad arwain at yrfa fel Diffoddwr Tân Amser Cyflawn neu waith yn y gwasanaethau brys eraill 

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf